Neidio i'r prif gynnwy

Adferiad Wedi COVID-19

Mae’r rhan fwyaf o bobl sy'n profi haint COVID-19 yn cael salwch byr, er y gall adferiad llawn gymryd sawl wythnos. Gall symptomau effeithio ar oedolion a phlant, a gellir amrywio o ran difrifoldeb a newid mewn natur dros amser. Bydd angen amser ar y rhan fwyaf o bobl sy'n profi COVID-19 i wella o'r salwch. Mae'n bwysig bod pobl yn garedig iddyn nhw eu hunain ac yn caniatáu i'w cyrff wella ar gyflymder naturiol.

Mae astudiaethau'n awgrymu y mae bron i 1 o bob 7 o bobl (13.7%) yn parhau i adrodd am symptomau ar ôl 12 wythnos. Cyfeirir at hyn weithiau fel Syndrom Covid Hir. Fodd bynnag, ein profiad ni yw nad oes un patrwm o symptomau, ac felly rydym defnyddiwn Adferiad Wedi Covid ac rydym yn canolbwyntio ar anghenion a dewisiadau pob unigolyn.

Gall unigolion sy'n gwella o COVID-19 brofi diffyg anadlu, bod yn llawer mwy blinedig nag arfer neu'n trafferthu i fod y person prysur yr oeddent cyn y salwch hwn. Gall cyflymder araf ac anrhagweladwy adferiad fod yn rhwystredig iawn.

Bu'n cydweithwyr arbenigol yn cynhyrchu awgrymiadau gorau i wella adferiad- ewch i'n tudalen Gwella o Salwch i ddod o hyd i adnoddau ar gyngor adfer.


Ydych chi'n profi symptomau parhaus ar ôl haint Covid-19?

I rai pobl, mae adferiad o COVID-19 wedi bod yn heriol iawn ac maent yn parhau i deimlo effeithiau'r salwch am fisoedd ar ôl cael eu heintio. Gall fod yn anodd deall pam mae'n ymddangos bod rhai pobl yn gwella'n gyflym, tra bod eraill yn cael eu heffeithio gan symptomau fwy amrywiol, sy'n hirach ac yn cael fwy o effaith arnynt.

Rydym yn ymwybodol iawn o'r gofid a achosir gan symptomau parhaus a natur anrhagweladwy'r broses adfer. Mae pobl sy'n profi'r daith adfer hon yn dweud y gall eu symptomau newid yn gyflym, ac wrth ddatrys un symptom, bu un arall yn creu problem.

Gan fod anghenion oedolion a phlant a phobl ifanc yn wahanol, rydym wedi creu gwybodaeth ar gyfer pob grŵp ar sut y gallant helpu eu hunain i wella, yn ogystal â manylion am y gwasanaethau a gynigir gan y Bwrdd Iechyd, a sut i gael gafael ar gymorth a chefnogaeth.


Dewiswch grŵp cleifion isod i gael rhagor o wybodaeth.

Gan fod llawer o bobl yn profi symptomau Ôl-Covid estynedig, efallai eich bod yn berthynas, yn ffrind neu’n weithiwr gofal sy’n bryderus ac sydd eisiau cefnogi unigolion i wella a dychwelyd i’w bywyd arferol.

Isod, mae rhai ystyriaethau i'w cymryd pan fyddwch chi gyda rhywun â symptomau Ôl-Covid:

  • Atgyfnerthwch fod y symptomau y maent yn eu profi yn rhai go iawn a cheisiwch beidio â mynd yn rhwystredig os na fyddant yn gwella'n gyflym- mae adferiad o'r firws yn cymryd amser.
  • Cydnabyddwch bod adferiad pob person yn wahanol iawn- peidiwch â barnu oherwydd bod person arall yn gwella'n gyflym, felly hefyd yr unigolyn hwn.
  • Ceisiwch eu helpu i ganolbwyntio ar y mân welliannau sy’n digwydd a rhowch gobaith iddyn nhw i bethau wella yn y dyfodol.
  • Cefnogwch nhw i ddilyn rhai o'r awgrymiadau gorau ar wella o salwch.
  • Cefnogwch nhw i ymgynghori â'u Meddyg Teulu os oes ganddynt bryderon sylweddol.
  • Anogwch nhw i wneud ychydig o weithgaredd y dydd, ond peidiwch â'u gorfodi i wneud mwy a mwy.
  • Darllenwch wybodaeth am symptomau penodol os ydych chi'n meddwl y gallwch chi eu helpu i ddeall a rheoli'r problemau.

Adnoddau Defnyddiol

PWY/Ewrop | Achos o glefyd coronafeirws (COVID-19) - Yn sgil y pandemig: paratoi ar gyfer COVID hir (2021)

Cymorth ar gyfer Adsefydlu: Hunanreoli ar ôl Salwch Cysylltiedig â COVID-19 (who.int)

PWY/Ewrop | Achos o haint coronafeirws (COVID-19) - Briff polisi newydd yn galw ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gefnogi cleifion wrth i 1 o bob 10 adrodd am symptomau “COVID-hir”

Eich adferiad COVID | Cefnogi eich adferiad ar ôl COVID-19

COVID hir | Eich adferiad COVID

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn trefnu digwyddiadau’n rheolaidd sy’n ein galluogi i wrando ar bobl sy’n byw yn ein cymunedau ac sy’n profi symptomau hirfaith o COVID-19. Bu'n digwyddiad diwethaf ar 15 Rhagfyr 2021 a bu dros 20 o bobl yn mynychu.

Mae dull ein gwasanaeth wedi’i arwain gan bobl sy’n profi symptomau parhaus ar ôl cael COVID-19, ac rydym yn hynod ddiolchgar i’r grŵp am rannu eu profiadau gyda ni.

Mae gennym gyfeiriad e-bost ar gyfer ein Gwasanaeth Adfer Ôl-Covid, lle gellir:

  • Rhoi gwybod i ni os hoffech gymryd rhan yn un o ddigwyddiadau Ymgysylltu’r Bwrdd Iechyd neu os hoffech rannu eich profiad personol o wella o COVID
  • Cael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau rydym yn eu cynnig a llwybrau atgyfeirio
  • Cynnig eich adborth a'ch awgrymiadau ar gyfer y gwasanaeth yr ydym yn ei gynnig

Anfonwch e-bost gyda'ch manylion cyswllt at: ABB.CovidRecoveryExperience@wales.nhs.uk . Byddwn yn anelu at ymateb o fewn 10 diwrnod i'ch ymholiad.

Sylwch na fyddwn yn gallu ymateb i gwestiynau am symptomau a gofal unigolion.