Rydym yn cynnig dos atgyfnerthu o frechiad Covid-19 i'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau.
Dyma'r pedwerydd brechiad ar gyfer y rhan fwyaf o bobl neu'r pumed i'r rheini sy'n imiwnoataledig, boed hynny oherwydd cyflwr meddygol neu'r feddyginiaeth yr ydych chi'n ei chymryd.
Mae'r brechiad atgyfnerthu ychwanegol wedi'i argymell gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, sy'n cynghori llywodraethau'r Deyrnas Unedig.
Mae'n cael ei gynnig rhag ofn fel bod y rheini sydd fwyaf mewn risg o ddod yn ddifrifol wael petaent yn cael eu heintio â'r coronafeirws yn gallu cynnal lefel uchel o imiwnedd.
Yr rheini sy'n rhan o'r categori hwn yw:
Mae llythyrau a negeseuon testun yn cael eu hanfon at y rhai 75 oed a hŷn a'r rhai sydd ag imiwnedd isel, gan gynnig apwyntiad iddynt gael eu brechu yn un o'n canolfannau brechu torfol. Mae apwyntiadau ar gyfer pobl 75 oed a hŷn yn dechrau o’r wythnos o ddydd Llun, 4 Ebrill, a chaiff y rhain eu cyflwyno rhwng Ebrill a Mehefin. Arhoswch nes y bydd apwyntiad wedi'i drefnu ar eich cyfer.
Bu’n timau yn y gymuned eisoes yn rhoi brechiadau atgyfnerthu'r gwanwyn mewn cartrefi gofal ers 21 Mawrth.
Byddwn yn parhau i wahodd pawb sy'n gymwys am y brechlyn; gall hyn fod yn ail ddosiau neu frechiadau atgyfnerthu. Os ydych yn cael gwahoddiad i ddod am apwyntiad, cofiwch fynychu.
Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael gwybodaeth am gael eich Pàs COVID: Cael eich pàs COVID y GIG.
Os nad yw'ch Pàs COVID yn dangos tystiolaeth o frechiad a rhoddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, cysylltwch â'n Canolfan Drefnu ar 0300 303 1373, a fydd yn gallu gwirio yn ôl ein cofnodion.
Os cawsoch eich brechiadau mewn ardal Bwrdd Iechyd arall ac nad yw'r brechiad hwn yn dangos ar eich cofnod, bydd angen i chi gysylltu â'r Bwrdd Iechyd hwnnw i ychwanegu'r brechiad at eich cofnod.
I gael gwybodaeth am y Pàs COVID i'r rhai sy'n agored i niwed yn glinigol, ewch i wefan Llywodraeth Cymru yn: Pàs COVID y GIG: help i gael eich pàs | LLYW.CYMRU.
Yn anffodus, ni all y Bwrdd Iechyd newid eich manylion personol ar eich Pàs COVID. Cysylltwch â'ch Meddyg Teulu a sicrhewch fod eich manylion yn gyfredol â nhw, gan fod eu system yn cysylltu â'ch cofnod GIG.
Os ydych wedi derbyn gwahoddiad am frechiad dos atgyfnerthu ar ôl derbyn tri brechiad Covid-19 yn barod, y rheswm am hyn yw eich bod yn cael eich ystyried fel rhywun ag imiwnedd isel iawn. Mae trydydd dos a dos atgyfnerthu o'r brechlyn Covid-19 yn cael ei gynnig i bobl 12 oed a throsodd a oedd â system imiwnedd gwan iawn pan gawsant eu dau ddos cyntaf.
Os oedd gennych system imiwnedd gwan iawn pan gawsoch eich dau ddos cyntaf, efallai na fydd y brechlyn wedi rhoi cymaint o amddiffyniad ag y gall i bobl nad oes ganddynt system imiwnedd gwan. Gall trydydd dos helpu i roi gwell amddiffyniad i chi.
Os ydych wedi cael brechiad trydydd dos, byddwch yn gymwys i gael dos atgyfnerthu o dri mis (91 diwrnod) ar ôl eich trydydd dos. Os ydych chi'n cael apwyntiad am frechiad atgyfnerthu, gwnewch bopeth y gallwch chi ei fynychu.
Am fwy o wybodaeth, ewch i: Joint Committee on Vaccination and Immunisation (JCVI) advice on third primary dose vaccination - GOV.UK (www.gov.uk)
Os ydych yn gymwys i gael brechiad atgyfnerthu, cynigir apwyntiad i chi o leiaf 3 mis (91 diwrnod) ar ôl eich ail ddos sylfaenol (neu drydydd dos i'r rhai sydd ag imiwnedd isel). Cysylltir â chi drwy lythyr, neges destun neu alwad ffôn.
Os ydych yn 18 oed neu'n hŷn, mewn grŵp sydd mewn perygl, neu os ydych yn agored iawn i niwed yn glinigol ac nad ydych wedi derbyn cynnig apwyntiad eto, llenwch y ffurflen ganlynol.
Dylech barhau i dderbyn eich frechiad atgyfnerthu os ydych yn sâl. Fodd bynnag, os oes gennych tymheredd uchel neu os ydych yn sâl iawn, gwiriwch hwn â'ch Feddyg Teulu neu gyda brechydd ar y safle cyn cael eich brechiad.
Os na lwyddoch i fynychu'ch apwyntiad penodedig, cynigir apwyntiad arall yn ei le i chi yn awtomatig. Os na allwch fynychu eich hapwyntiad newydd, gellir ei ganslo drwy ffonio 0300 303 1373.
Os ydych wedi dal Covid-19 yn ddiweddar ac yn hŷn na 18, bydd angen i chi aros am 28 diwrnod cyn cael eich brechiad atgyfnerthu. Llenwch y ffurflen hon i ganslo eich apwyntiad a gwneud cais am apwyntiad i gael ei anfon atoch yn ei le. Gallwn wirio ar ein system i ganfod y dyddiad y gwnaethoch brofi’n bositif ac ailosod apwyntiad unwaith y byddwch yn gymwys eto.
Bydd rhaid i blant dan 18 oed sydd wedi'u heintio â Covid-19 aros 12 wythnos cyn derbyn unrhyw frechiadau Covid-19.
Os yw eich plentyn wedi derbyn gwahoddiad i dderbyn dos 1af neu 2il ddos o'r brechlyn Covid-19, peidiwch â mynychu os ydynt wedi profi'n bositif am Covid-19 o fewn y 12 wythnos diwethaf. Mae hyn yn dechrau o ddyddiad eu prawf PCR cadarnhaol.
Os yw'ch plentyn mewn grŵp sydd mewn mwy o berygl o salwch difrifol o Covid-19, bydd angen iddo aros 4 wythnos ar ôl ei brawf positif.
Os na all eich plentyn fynychu ei apwyntiad penodedig am y rheswm hwn, gallwch ganslo ei apwyntiad drwy ffonio 0300 303 1373.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cewch, gall unrhyw un dros 12 oed nad ydynt wedi derbyn y cynnig i gael brechiad Covid-19 gerdded i mewn i unrhyw un o’n canolfannau brechu yn ystod eu horiau agor i dderbyn eu dos cyntaf o’r brechiad. Bydd yn rhaid i blant dan 16 mlwydd oed gael eu hebrwng gan oedolyn/warchodwr. Noder- mae hyn yn berthnasol ar gyfer dosau cyntaf yn unig.
Yn anffodus, nid yw'n bosibl i chi alw heibio canolfan frechu i gael brechiad ail ddos. Os ydych yn ddyledus i'ch ail ddos ac nad ydych wedi derbyn gwahoddiad ar gyfer eich apwyntiad eto, llenwch y ffurflen ganlynol: Ffurflen Archebu Brechiad Dos Gyntaf ac Ail Ddos - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (gig.cymru)
Oherwydd y nifer fawr o breswylwyr sydd angen brechiad ar hyn o bryd, mae’n bosib y byddwn yn rhoi gwybod i chi am eich apwyntiad ar fyr rybudd. Gofynnwn i bawb fod yn hyblyg ac i ddisgwyl derbyn apwyntiad ar fyr rybudd. Rydym yn cyhoeddi apwyntiadau atgyfnerthu drwy lythyrau, negeseuon testun ac ar y ffôn. Bydd galwadau ffôn yn dod o rif sy’n dechrau gyda 0330 - atebwch ein galwadau os gwelwch yn dda. Sicrhewch fod eich manylion cyswllt i gyd yn gyfredol gyda’ch meddyg teulu hefyd.
Bydd y brechiad fyddwch yn ei gael yn dibynnu ar y cyflenwad. Ar hyn o bryd rydym yn cynnig Pfizer a Moderna o fewn ein clinigau, ond yn anffodus, nid yw’n bosib dewis pa frechiad rydych chi’n ei gael.
Yn aml, caiff ein Clinigau Galw Heibio eu trefnu ar fyr rybudd, yn dibynnu ar ein niferoedd o staff a'n cyflenwad o frechlynnau. Gofynnwn i chi monitro ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol a'n tudalen Cael Eich Brechu i gael y wybodaeth diweddaraf am glinigau galw heibio.
Gall menywod beichiog fynychu ein canolfannau brechu heb apwyntiad ar gyfer unrhyw un o'u brechiadau Covid-19. Os ydych yn fwy nag 20 wythnos yn feichiog, ewch i flaen y ciw, rhowch gwbod i staff eich bod chi yno a chewch eich blaenoriaethu.
Gweler oriau gweithredol ein Canolfannau Brechu.
Yn anffodus, oherwydd y nifer anhygoel fawr o bobl sy'n dod i'n canolfannau brechu, mae'n debygol y bydd yn rhaid i chi giwio wrth fynychu eich apwyntiad. Mae'n ddrwg iawn gennym am hyn a byddwn yn gweithio mor effeithlon ag y gallwn, ond gwisgwch am dywydd oerach rhag ofn y bydd yn rhaid i chi giwio y tu allan.