Mae ymweld â'ch fferyllfa leol yn ffordd wych o gael gafael ar gyngor a thriniaethau prydlon ar gyfer anhwylderau cyffredin.
Mae rhywfaint o'r gwaith a wneir yn draddodiadol gan Feddygon Teulu bellach yn cael ei wneud gan Fferyllwyr yn lle. Mae hyn yn cynnwys rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn yn unig ar gyfer nifer o fân anhwylderau heb yr angen i weld meddyg. Ac, fel meddyginiaethau eraill yng Nghymru, mae'r rhain hefyd yn rhad ac am ddim.
Mae'n rhaid i chi gofrestru gyda'r fferyllfa i ddefnyddio'r cynllun, ond dim ond ychydig funudau y mae'r broses yn ei gymryd.
Cynhelir ymgynghoriadau mewn ystafell breifat ac os bydd y Fferyllydd yn penderfynu bod angen i chi weld meddyg o hyd, byddant yn eich atgyfeirio.
Anhwylderau Cyffredin a gwmpesir gan y cynllun:
Acne | Tarwden y Troed | Poen cefn |
Brech yr Ieir | Briwiau Oer | Colig |
Conjunctivitis (Bacteriol) | Rhwymedd | Dolur rhydd |
Llygaid Sych |
Dafadennau Dermatitis |
Brech Cewyn |
Clefyd y gwair | Llau Pen | Diffyg traul |
Casewin | Intertrigo | Wlseri Ceg |
Rash Cewynnau | Llindag y Geg | Peils |
Clefyd Crafu | Gwddf Tost | Torri Dannedd |
Mwydod edafedd | Llindag y Wain | Dafadennau neu Verrucas |