Os oes rhywun wedi ymosod arnoch yn rhywiol, mae'n bwysig cofio nad eich bai chi oedd hynny. Mae trais rhywiol yn drosedd, ni waeth pwy sy'n ei gyflawni na ble mae'n digwydd. Peidiwch ag ofni cael cymorth.
Mae yna wasanaethau a all helpu os oes rhywun wedi ymosod arnoch yn rhywiol, os ydych wedi cael eich treisio neu eich cam-drin. Nid oes rhaid i chi roi gwybod am yr ymosodiad i'r heddlu os nad ydych chi eisiau. Efallai y bydd angen amser arnoch i feddwl am yr hyn sydd wedi digwydd i chi.
Fodd bynnag, ystyriwch gael cymorth meddygol cyn gynted â phosibl ar gyfer unrhyw anafiadau ac oherwydd bod risg y gallech fod yn feichiog neu wedi cael eich heintio gyda heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs) . Os ydych chi eisiau i'r drosedd gael ei hymchwilio, gorau po gyntaf y cynhelir archwiliad meddygol fforensig.
Ceisiwch beidio â golchi na newid eich dillad yn syth ar ôl ymosodiad rhywiol. Gall hyn ddinistrio tystiolaeth fforensig a allai fod yn bwysig os penderfynwch roi gwybod i’r heddlu am yr ymosodiad.
Mae canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol (SARCs) yn cynnig cefnogaeth feddygol, ymarferol ac emosiynol i unrhyw un sydd wedi cael eu treisio, wedi profi ymosodiad rhywiol neu sydd wedi’u cam-drin. Mae gan SARCs feddygon, nyrsys a gweithwyr cymorth sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig i ofalu amdanoch chi.
Gallwch gael cymorth gan SARC drwy drefnu apwyntiad gyda'ch un agosaf.
Mae mannau eraill y gallwch gael cymorth yn cynnwys:
Mae canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol (SARCs) wedi'u lleoli ledled y wlad ac maent ar gael i bawb, waeth beth fo'u rhyw, oedran, math y digwyddiad, neu pryd y digwyddodd.
Mae Canolfannau Ymosodiadau Rhywiol (SARCs) yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys gofal mewn argyfwng, archwiliadau meddygol a fforensig, atal cenhedlu brys a phrofion am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Gallant hefyd drefnu mynediad at gynghorydd ymosodiad rhywiol annibynnol (ISVA), yn ogystal ag atgyfeiriadau at wasanaethau cymorth iechyd meddwl a chymorth trais rhywiol.
Os ydych chi'n ystyried rhoi gwybod i'r heddlu am ymosodiad, gall y ganolfan drefnu i chi siarad â swyddog heddlu sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig a all egluro'r camau nesaf.
Os penderfynwch roi gwybod am yr ymosodiad i'r heddlu, gall cynghorwyr sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig eich cefnogi drwy'r system cyfiawnder troseddol. Gallant hefyd eich cefnogi drwy'r achos llys os bydd yr achos yn mynd i'r llys.
Gellir trefnu archwiliadau meddygol fforensig, hyd yn oed os nad ydych wedi penderfynu a ydych am roi gwybod am yr ymosodiad.
Ymosodiad rhywiol yw unrhyw weithred rywiol nad yw person wedi cydsynio iddi, neu weithred y mae person yn cael eu gorfodi i’w wneud yn erbyn eu hewyllys. Mae'n fath o drais rhywiol ac mae'n cynnwys treisio (ymosodiad sy'n cynnwys treiddiad i'r wain, yr anws neu'r geg), neu droseddau rhywiol eraill, fel cyffwrdd, cusanu dan orfod, cam-drin plant yn rhywiol, neu arteithio person mewn modd rhywiol.
Gall trais neu ymosodiad rhywiol ddigwydd i unrhyw un o unrhyw oedran.
Mae ymosodiad rhywiol yn weithred a gyflawnir heb ganiatâd person. Mae hyn yn golygu nad oeddent wedi cytuno iddo.
Mae cydsynio yn golygu dweud "ie" i'r hyn a ddigwyddodd.
Nid yw bod yn feddw, neb yn gofyn i chi, dweud dim byd, neu ddweud ie i rywbeth arall, yn gydsyniad. Nid yw bod mewn perthynas neu'n briod â rhywun yn gydsyniad.
Nid yw'n anghyffredin i'r sawl sy'n profi ymosodiad rhywiol beidio â chael unrhyw anafiadau corfforol nac arwyddion o'r ymosodiad. Ond mae ymosodiad rhywiol yn dal i fod yn drosedd a gellir rhoi gwybod amdani i'r heddlu yn yr un modd â throseddau eraill.
I gael rhagor o wybodaeth am roi gwybod am ymosodiad rhywiol, ewch i wefan Heddlu Gwent: Cymorth ar ôl treisio ac ymosodiad rhywiol | Heddlu Gwent
Sbeicio diod yw pan fydd alcohol neu gyffuriau wedi'u rhoi yn eich diod heb eich caniatâd.
Os yw eich diod wedi cael ei sbeicio neu os ydych wedi cael eich chwistrellu â sylwedd anhysbys, a’ch bod yn meddwl eich bod rhywun wedi ymosod arnoch yn rhywiol, ewch i'ch canolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol (SARC) agosaf i gael gofal a chymorth arbenigol.
Os ydych chi wedi cael eich sbeicio ond nad ydych wedi profi ymosodiad rhywiol, ffoniwch 111 i gael cyngor meddygol brys os oes gennych chi unrhyw symptomau yr ydych chi'n poeni amdanynt.
At hyn, cysylltwch â'r heddlu i ddweud wrthyn nhw beth ddigwyddodd.
Os ydych chi wedi profi ymosodiad rhywiol, does dim rhaid i chi gael archwiliad meddygol fforensig. Fodd bynnag, gall hyn ddarparu tystiolaeth ddefnyddiol os bydd yr achos yn mynd i'r llys. Mae'n bosibl casglu tystiolaeth, fel DNA, tystiolaeth o sbeicio a gwallt rhydd fel rhan o'r dystiolaeth feddygol.
Gallwch benderfynu ar unrhyw adeg a hoffech gael archwiliad meddygol fforensig. Fodd bynnag, po gyntaf y bydd hyn yn digwydd, y mwyaf yw'r siawns o gasglu tystiolaeth. Os digwyddodd yr ymosodiad fwy na 7 diwrnod yn ôl, mae'n dal yn werth gofyn am gyngor gan SARC neu'r heddlu ynghylch archwiliad meddygol fforensig os hoffech gael un.
Fel arfer, y meddyg neu'r nyrs fydd yn cymryd y samplau, megis swabiau o unrhyw le rydych chi wedi cael eich cusanu, eich cyffwrdd neu unrhyw le ble mae rhywbeth wedi mynd i mewn i’ch corff. Gallent hefyd gymryd samplau wrin a gwaed ac weithiau gwallt, yn ddibynnol ar y wybodaeth y byddwch yn ei darparu am yr ymosodiad, ac efallai y byddant yn cadw rhai dillad ac eitemau eraill hefyd (os gwnânt hynny, byddant yn rhoi dillad newydd i chi).
Gallwch ofyn am gael gwneud eich swabiau eich hun. Neu gallwch ddewis cael rhai samplau yn unig, er enghraifft wrin neu ddillad.
Mae'n bwysig bod y swabiau’n cael eu cymryd cyn gynted â phosibl, gan y bydd tystiolaeth fforensig yn gwisgo ac yn golchi i ffwrdd.
Os nad ydych wedi penderfynu a ddylech gysylltu â'r heddlu neu peidio, bydd unrhyw dystiolaeth feddygol fforensig a gesglir yn cael ei storio yn y Ganolfan Ymosodiadau Rhywiol. Mae hyn yn rhoi amser i chi benderfynu a ydych chi am roi gwybod am yr ymosodiad.
Mewn rhai SARCs gallwch ddewis cael eich samplau wedi'u prosesu heb i chi gael eich adnabod (rhag ofn bod y person a ymosododd arnoch wedi ymosod ar rywun arall).
Os penderfynwch roi gwybod i'r heddlu, bydd swyddog heddlu sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig i gefnogi dioddefwyr ymosodiad rhywiol yn siarad â chi ac yn eich helpu i sicrhau eich bod yn deall beth sy'n digwydd yn ystod pob cam.
Bydd yr heddlu’n ymchwilio i’r ymosodiad. Byddwch yn cael cynnig archwiliad meddygol fforensig a gofynnir i chi wneud datganiad am yr hyn a ddigwyddodd (bydd yr hyn y byddwch yn ei ddweud yn cael ei ysgrifennir, a byddwch yn ei wirio a’i lofnodi). Bydd yr heddlu’n trosglwyddo eu canfyddiadau, gan gynnwys yr adroddiad fforensig, i Wasanaeth Erlyn y Goron, a fydd yn penderfynu a ddylai’r achos fynd i’r llys.
I gael gwybod mwy am yr hyn sy'n gysylltiedig ag ymchwiliad a threial, gallwch:
Bydd eich manylion yn cael eu cadw mor gyfrinachol â phosibl. Fodd bynnag, os oes ymchwiliad heddlu neu erlyniad troseddol yn gysylltiedig â'r ymosodiad, mae unrhyw ddeunydd sy'n ymwneud ag ef yn "ddatgeladwy". Mae hyn yn golygu y gallai fod yn rhaid ei gyflwyno yn y llys.
Os nad oes ymchwiliad nac erlyniad, ni fydd gwybodaeth amdanoch chi'n cael ei rhannu â gwasanaethau eraill heb eich caniatâd, oni bai bod pryder eich bod chi neu unrhyw un arall mewn perygl o niwed difrifol.
Cyngor i berthnasau a ffrindiau rhywun sydd wedi profi ymosodiad rhywiol, mae gan Linell Gymorth Byw Heb Ofn gyngor ar yr hyn y gallwch chi ei wneud i helpu. Mae'r cyngor yn cynnwys:
Os ydych chi'n poeni am blentyn, mae'n bwysig eich bod chi'n siarad â gweithiwr proffesiynol a all sicrhau eu bod nhw'n ddiogel. Bydd pwy y byddwch chi'n siarad ag ef yn dibynnu ar y sefyllfa.
Efallai y bydd person ifanc yn siarad ag athro y maent yn ymddiried ynddynt a fyddai’n cyfeirio at rywbeth o’r enw’r Hwb Diogelu Amlasiantaeth (MASH) os oes angen.
Gallwch hefyd siarad â rhywun o'r MASH, neu weithiwr cymdeithasol neu'r heddlu os yw'n well gennych. Nid oes rhaid i chi roi eich enw.
Gallwch ddod o hyd i rif eich MASH lleol os chwiliwch ar-lein am MASH yn eich ardal.
Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan o gynnwys gwreiddiol ar wefannau GIG Cymru 111.wales.nhs.uk a GIG nhs.uk.