Atal haint a'ch cadw'n ddiogel yn ein holl ysbytai
Mae gan bawb gyfrifoldeb i atal heintiau. I lawer o bobl sy’n cael eu trin yn yr ysbyty ac yn derbyn gofal o fewn ein cymunedau, gall heintiau fod yn ddifrifol, ac mewn rhai achosion, gallant fygwth bywyd.
Mae tua 300,000 o bobl y flwyddyn yn cael heintiau o ganlyniad i ofal y GIG. Y mathau mwyaf cyffredin yw heintiau anadlol (heintiau sy'n effeithio ar yr anadlu a'r ysgyfaint), heintiau'r llwybr wrinol a heintiau ger safle llawfeddygol.
Gallant hefyd wneud cyflyrau meddygol presennol yn waeth. Mae cyswllt rheolaidd â staff, preswylwyr eraill, teulu a ffrindiau a'r gofod byw a rennir oll yn golygu ei bod yn hawdd trosglwyddo haint. Mae’n hanfodol felly ein bod i gyd yn cymryd y camau a all helpu i atal heintiau rhag lledaenu.
Peidiwch ag ymweld â ni os:
HYLENDID Y DWYLO
Hylendid dwylo yw un o'r ffyrdd pwysicaf o reoli lledaeniad heintiau, yn enwedig y rhai sy'n achosi dolur rhydd neu chwydu a heintiau anadlol.
Beth sydd angen i chi ei wneud
Golchwch eich dwylo gyda dŵr a sebon (neu defnyddiwch rwbiad dwylo alcohol) ar ôl defnyddio'r toiled, cyn bwyta neu drin bwyd, ar ôl amser chwarae ac ar ôl cyffwrdd ag anifeiliaid.
Os ydych yn ymweld â chlaf sydd yn yr ysbyty a'ch bod yn darparu gofal ymarferol (eu helpu i ymolchi neu wisgo), golchwch eich dwylo (neu defnyddiwch rwbiad dwylo alcohol) cyn ac ar ôl cyffwrdd â hwy.
Gellir defnyddio rhwbiad dwylo alcohol os nad yw'r dwylo’n ymddangos yn fudr. Nid yw rwbiad dwylo alcohol yn effeithiol yn erbyn organebau sy'n achosi gastroenteritis, megis norofeirws.
Peswch a thisian
Gall germau ledaenu'n hawdd wrth i rhywun beswch a thisian. Gall gorchuddio'ch trwyn a'ch ceg wrth disian a pheswch leihau lledaeniad heintiau.
Beth sydd angen i chi ei wneud
Dylai pob unigolyn, yn enwedig y rhai sydd agarwyddion a symptomau haint anadlol, ddilyn y canllawiau isod:
Oeddech chi'n gwybod?
Gofal Dwys a rhannau eraill o’n safleoedd sy’n agored iawn i niwed yw lle mae’r rhan fwyaf o frigiadau a heintiau’n digwydd oherwydd difrifoldeb salwch y cleifion sydd ynddynt. Fel arfer bydd cleifion yn aros yn yr amgylcheddau hyn am gyfnod hirach o amser hefyd, felly mae'n rhaid i ni gymryd mwy byth o ofal o ran mesurau ataliol megis y rhai sydd wedi’u crybwyll uchod.