Neidio i'r prif gynnwy

Unigrwydd ac Ynysigrwydd Cymdeithasol

Gall pawb deimlo'n unig ar adegau. Bydd profiad pawb yn wahanol; mae rhai pobl yn teimlo'n unig mewn torf o bobl. Gellir disgrifio unigrwydd fel teimlad o dristwch a gwacter sy'n ein gadael yn teimlo'n unig ac ynysig. Gall teimlo'n unig effeithio ar bobl o bob oed.

Mae cael cysylltiadau cymdeithasol cadarnhaol yn bwysig ar gyfer ein hiechyd meddwl. Rydym i gyd yn amrywio o ran faint rydym yn ceisio cwmni pobl eraill, ac yn eu mwynhau. Ond yn y bôn, fel bodau dynol mae angen i bob un ohonom gael rhyngweithiadau cadarnhaol â phobl eraill.

Gobeithiwn y bydd y dudalen hon yn helpu i gysylltu a chefnogi'r bobl hynny sy'n teimlo'n unig neu'n ynysig.