Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwella'n llwyr o sepsis. Ond gall gymryd amser.
Efallai y byddwch yn parhau i gael symptomau corfforol ac emosiynol. Gall y rhain bara am fisoedd, neu hyd yn oed flynyddoedd, ar ôl i chi gael sepsis.
Weithiau gelwir yr effeithiau hirdymor hyn yn syndrom ôl-sepsis, a gallant gynnwys:
Triniaeth ar gyfer syndrom ôl-sepsis
Dylai'r rhan fwyaf o symptomau syndrom ôl-sepsis wella ar eu pen eu hunain. Ond gall gymryd amser.
Mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu gyda rhai o’r effeithiau hirdymor.
Pethau y dylech eu gwneud:
gofyn i'ch gwaith a fyddai posib newid eich oriau neu amodau gwaith tra byddwch yn gwella
ymarferion ysgafn, hawdd i adeiladu eich cryfder
cysgu'n rheolaidd
ceisio atal heintiau - er enghraifft, drwy olchi eich dwylo'n rheolaidd
ceisiwch fwyta ychydig ac yn aml os mai ychydig o chwant bwyd sydd gennych
Pethau na ddylech eu gwneud:
peidiwch â cheisio brysio eich adferiad – rhowch amser i'ch hun
Ewch i weld meddyg teulu ynglŷn â:
triniaeth ar gyfer sgîl-effeithiau corfforol
Triniaeth a chefnogaeth ar gyfer symptomau emosiynol