Neidio i'r prif gynnwy

Pwy all ei ddal?

Pwy sy'n fwy tebygol o gael sepsis:

  • Gall unrhyw un sydd â haint gael sepsis.
  • Mae rhai pobl yn fwy tebygol o gael haint a allai arwain at sepsis, gan gynnwys:
  • babanod o dan 1 oed, yn enwedig os ydynt yn cael eu geni'n gynnar (cynamserol) neu os oedd gan eu mam haint tra'n feichiog
  • Pobl dros 75 oed
  • Pobl â diabetes
  • pobl sydd â system imiwnedd wan, megis y rhai sy'n cael triniaeth cemotherapi neu bobl sydd wedi cael trawsblaniad organ yn ddiweddar
  • pobl sydd wedi cael llawdriniaeth neu salwch difrifol yn ddiweddar
  • menywod sydd newydd roi genedigaeth, wedi cael camesgoriad neu wedi cael erthyliad

Ni allwch ddal sepsis gan rywun arall. Mae'n digwydd pan fydd eich corff yn gorymateb i haint.