Neidio i'r prif gynnwy

Cleifion y Codir Tâl arnynt gan y GIG

Caiff cleifion y codir tâl arnynt o dan y Rheoliadau eu trin fel cleifion y codir tâl arnynt gan y GIG, ac nid fel cleifion preifat. Yn wahanol i gleifion preifat, mae rhwymedigaeth ar gleifion y codir tâl arnynt gan y GIG yn atebol i dalu am eu triniaeth hyd yn oed pan nad oes ymrwymiad wedi’i wneud gan y claf i dalu.

Mae triniaeth cleifion y codir tâl arnynt gan y GIG yn cael yr un flaenoriaeth glinigol â chleifion eraill y GIG.

Taliad

Os oes rhwymedigaeth arnoch i dalu am eich triniaeth, bydd anfoneb yn cael ei hanfon atoch am gost eich triniaeth. Rydym yn derbyn y mathau canlynol o daliad:

  • Cerdyn credyd/debyd Rhif ffôn: 01495 765422
  • Trosglwyddiad banc (Manylion Banc wedi'u cynnwys ar yr anfoneb)

E-bost: ABB.AREnquiries@wales.nhs.uk