Neidio i'r prif gynnwy

A fydd tagfeydd traffig mawr yn yr ardal unwaith y bydd Y Faenor yn agor?

Nid ydym yn rhagweld y bydd unrhyw broblemau mawr gyda thraffig unwaith y bydd yr ysbyty'n agor, gan fod dau arolwg trafnidiaeth annibynnol wedi'u cynnal fel rhan o'r Achos Busnes i'r Ysbyty newydd i benderfynnu ar ei leoliad.

Bydd hyn yn Ysbyty wahanol iawn i'r Brenhinol Gwent ac Ysbyty Nevill Hall - un o'r prif wahaniaethau yw na fydd unrhyw apwyntiadau cleifion allanol a wneir yno, felly bydd llai o bobl yn dod ac yn mynd i'r ysbyty.

Bydd y rhan fwyaf o'n staff a'n hymwelwyr yn cyrchu'r ysbyty newydd o'r A4042, a bydd staff yr ysbyty yn gweithio 24/7 ar draws ystod o wahanol batrymau shifft, sy'n golygu na ddylai fod copaon mawr mewn traffig.