Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Iechyd a Lles Bevan

 

Mae'r Ganolfan Iechyd a Lles Newydd yn Nhredegar yn cael ei hadeiladu ar hyn o bryd ar hen safle Ysbyty Cyffredinol Tredegar. Roedd Ysbyty Cyffredinol Tredegar yn ysbyty poblogaidd, a oedd yn cael ei ystyried gan lawer fel man geni a chartref ysbrydol y GIG. Mae'r boblogaeth leol yn gefnogol i ddatblygiad y Ganolfan Iechyd a Lles arfaethedig yn Nhredegar ac maent yn ymwneud yn llawn â'r trafodaethau hyn. Gan fod yr ysbyty yn rhan bwysig iawn o dreftadaeth trigolion lleol, byddwn yn cadw calon yr adeilad fel bod etifeddiaeth Aneurin Bevan yn parhau i fod yn rhan sylweddol o’r dref.


Mae hyn yn newyddion cyffrous iawn i'r gymuned ac i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Bydd y Bwrdd Iechyd yn gweithio’n agos gyda thrigolion lleol, yn ogystal â sicrhau bod ethos yr hen Ysbyty Tredegar yn cael ei gynrychioli yn yr adeilad newydd.

 

Diweddariad Gwanwyn 2023
 

Ers ein diweddariad diwethaf ym mis Hydref, mae Canolfan Iechyd a Lles Bevan yn symud tuag at gam olaf y datblygiad gyda'r gwaith brics wedi hen ddechrau a rhan olaf y to ar y gweill. Mae'r tu mewn i'r gwaith adeiladu wedi dechrau ar ffurfio'r ystafelloedd, a bydd llawer ohonynt yn ystafelloedd meddygon teulu a mannau gweinyddol.

Mae'r tîm yn gadarnhaol iawn am y prosiect a gallwn ei weld yn dod at ei gilydd yn awr i gynhyrchu canolfan iechyd a lles gwirioneddol dda i drigolion Tredegar.

Diweddariad yr Hydref 2022

Ers ein diweddariad diwethaf ym mis Ebrill mae Canolfan Iechyd a Lles Bevan wedi dechrau dod yn siâp, yn ystod yr wythnosau diwethaf mae’r toi wedi’i gwblhau, gosod slabiau concrit a system ffrâm ddur wedi’i gosod, mae hyn wedi caniatáu cychwyn ar y gwaith brics a’r cladin allanol. Bydd y to crib a'r llechi yn cael eu hychwanegu i wneud yr adeilad yn ddwrglos ac yn gwrthsefyll y tywydd cyn misoedd y gaeaf, a fydd yn ein galluogi i symud ymlaen i'r gosodiadau mewnol.

Fel rhan o’r prosiect, mae Kier Construction wedi gweithio’n agos gyda’r gymuned leol, gan weithio gydag Ysgolion Cynradd ac Gyfun Tredegar lleol, gan gynnal gweithdai gyda’r artist Cymreig o fri mewnol, Nathan Wyburn, a fydd hefyd yn dylunio’r gwaith celf ar gyfer yr adeilad, yn ogystal â darparu sgyrsiau gyrfa, sesiynau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) a phrofiad gwaith. Maent hefyd wedi darparu gwaith ar gyfer prentisiaid, graddedigion a hyfforddeion, gan wneud cyfanswm o 231 wythnos o waith trawiadol.

 

I gael rhagor o wybodaeth, cadwch olwg ar y dudalen hon am ddiweddariadau pan fyddant yn digwydd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddatblygiad a chynnydd y prosiect hwn, e-bostiwch: Abb.engagement@wales.nhs.uk