Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Iechyd a Lles newydd ar gyfer Dwyrain Casnewydd

Gorffenodd yr ymgynghoriad yma ar y 20fed o Dachwedd 2022. 

Diolch i bawb sydd wedi cysylltu gyda'r ymgynghoriad Meddygfa Parc, sydd wedi gorffen o'r 20fed o Dachwedd 2022.

Ymgynghoriad 8 wythnos Meddygfa Parc

Mae Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cyllid o £27 miliwn ar gyfer Canolfan Iechyd a Lles newydd ar gyfer Dwyrain Casnewydd.  Bydd y ganolfan wedi'i lleoli yn Ringland a bydd modd i ddau Bractis Meddyg Teulu weithio’n annibynnol oddi yno: Practis Meddygol Ringland ac, o bosib, Meddygfa Parc.

Bydd y ganolfan yn dod ag ystod o wasanaethau cleifion ynghyd o dan un to, gan gynnwys Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol a Deintyddiaeth Gymunedol, Gwasanaethau Cymunedol, Gofal Cymdeithasol a Phartneriaid o’r Trydydd Sector. Mae'r datblygiad hwn yn rhan allweddol o fodel Dyfodol Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae’n fodd i’r Bwrdd Iechyd ddarparu ystod eang o wasanaethau i’r gymuned leol yn nes at y cartref.  

Gofynnir i gleifion cyfredol Meddygfa'r Parc rannu eu barn ynghylch y datblygiad hwn. Gan mai’r cynnig yw symud Meddygfa Parc i’r ganolfan newydd, mae’n bwysig bod cleifion cyfredol yn rhoi gwybod i ni am unrhyw ymholiadau neu bryderon fydd ganddynt, er mwyn sicrhau y byddai modd iddynt elwa’n llawn o’r cyfleusterau newydd a allai fod ar gael iddynt yno pe byddai’r cynnig yn cael ei dderbyn.   Er mwyn sicrhau eu bod yn cael y cyfle i ystyried y cynnig yma, rydym yn gweithio'n agos gyda’r Cyngor Iechyd Cymuned (CIC) a sefydliadau partner eraill, ac rydym wedi trefnu ymgysylltiad gyda’r cyhoedd a fydd yn para wyth wythnos. Bydd y cyfnod ymgysylltu’n cychwyn ar y 26ain o Fedi ac yn dod i ben ar y 20fed o Dachwedd eleni.

Isod mae rhestr o’r ffyrdd gwahanol y gall cleifion gael mwy o wybodaeth yn ogystal â’r ffyrdd o roi gwybod i ni am eu teimladau a’u barn:

 

Arolwg Cleifion

Mae linc i’r arolwg isod, lle y gellir ei llenwi a’i hanfon yn ôl atom ar-lein.  

https://forms.office.com/r/y5w5aL7998

Fel arall, sganiwch y cod QR isod a bydd eich ffôn yn cael ei gysylltu â'r arolwg yn syth.

Gellir trefnu bod yr arolwg yma ar gael mewn ieithoedd eraill. Cysylltwch â ni i wneud cais.

Bydd fersiwn bapur o’r arolwg ar gael yn Nerbynfa Meddygfa Parc ac yn y sesiynau ymgysylltu a restrir isod ar gyfer cleifion nad ydynt yn gallu cael gafael ar ffurflen ar-lein.   Gellir dychwelyd fersiwn bapur yn y ffyrdd canlynol:

  • Ei rhoi i aelod o staff Meddygfa Parc neu ei rhoi i swyddog yn ystod un o'r digwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd
  • Gellir ei phostio i’r cyfeiriad isod:


Tîm Datblygu Canolfan Iechyd a Lles Dwyrain Casnewydd,
Tîm Ardal Casnewydd,
Victoria House,
136-140 Corporation Road,
Casnewydd
NP19 0BH


Efallai y byddai’n well gennych ei sganio neu dynnu llun ohoni a’i e-bostio atom ar (bydd angen i’r llun fod o ansawdd uchel): ABB.NEHWBCFeedback@wales.nhs.uk

 

Digwyddiadau Ymgysylltu â'r Cyhoedd

Bydd cynrychiolwyr o'r Bwrdd Iechyd ar gael yn Meddygfa Parc a Beechwood House (sydd wedi'i leoli ym Mharc Beechwood, Christchurch Road, Casnewydd, NP19 8AJ) i drafod y datblygiad yn anffurfiol ac i ymateb i unrhyw ymholiadau ar yr adegau canlynol:

Dydd Iau 6ed o Hydref yn Meddygfa Parc rhwng 6:30pm a 7:30pm

Dydd Mawrth 11eg o Hydref yn Beechwood House rhwng 11:00am ac 1:00pm

Dydd Gwener 21ain o Hydref yn Beechwood House rhwng 2:00pm a 4:00pm

Dydd Iau 27ain o Hydref yn Meddygfa Parc rhwng 6:30pm a 7:30pm

 

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r sesiynau yma, anfonwch e-bost atom ar ABB.Engagement@wales.nhs.uk  
 

 

Ffynonellau Gwybodaeth

Gweler isod ragor o wybodaeth ynghlych y datblygiad:

 

At hyn, os hoffai cleifion siarad ag aelod o'r tîm i gael mwy o wybodaeth/arweiniad neu i gofrestru eu barn, gellir ein ffonio ar 01633 656392.