Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Radiotherapi Lloeren yn Ysbyty Nevill Hall

 

Rydym wrth ein bodd bod gwaith bellach wedi dechrau ar y Ganolfan 'Loeren' Radiotherapi newydd gwerth £38 miliwn yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni. Bydd y ganolfan, a disgwylir i agor erbyn dechrau 2025, yn darparu gwasanaethau radiotherapi yn nes at gartrefi trigolion Gwent a'r rhai sy'n byw yng ngogledd a dwyrain dalgylch Canolfan Ganser Felindre.

Bydd y buddsoddiad cyfunol yn darparu triniaethau newydd a gwell i gleifion canser, yn darparu gwasanaethau radiotherapi diogel, ac yn gwella capasiti ac effeithlonrwydd y gwasanaeth – drwy ddarparu triniaethau cyflymach sydd wedi’u targedu’n well.