Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Yn Gweithio'n Agos gydag Ymwelwyr Iechyd

Bydwragedd
Byddwch yn cael manylion cyswllt ar gyfer bydwragedd sydd wedi'u lleoli yn eich cymuned leol. Mae bydwragedd yn darparu gofal cyn-enedigol ac ôl-enedigol mewn amryw o leoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Mae Galw Iechyd Cymru (yn agor mewn ffenestr newydd) yn dangos i chi beth sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru.
 
Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol
Mae gan y Bwrdd Iechyd dîm gwych sy'n gweithio yn y clinigau iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol. Darllenwch fwy am y gwasanaethau sydd ar gael ar ein tudalennau Iechyd Rhywiol.

Os hoffech ymweld â chlinig iechyd rhywiol arall gallwch ddod o hyd iddo ar wefan Galw Iechyd Cymru (yn agor mewn ffenestr newydd) - mae dros 50 o glinigau yn Ne Cymru.
 
Gwasanaeth Nyrsio Ysgol
Mae nyrsys ysgol yn weithwyr proffesiynol cymwys arbenigol profiadol sy'n gweithio ar draws ffiniau iechyd ac addysg.
Maent yn gweithio gyda phlant unigol, pobl ifanc a theuluoedd, ysgolion a chymunedau i wella iechyd.
Maent hefyd yn darparu'r cysylltiad rhwng yr ysgol, y cartref a'r gymuned.
 
Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol
Mae Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn dîm cymunedol arbenigol sy'n cwmpasu'r ardal Gwent cyfan. Mae ein tîm amlddisgyblaethol yn darparu gofal a thriniaeth i ferched sy'n feichiog neu'n ôl-enedigol ac sydd mewn perygl o, neu sy'n cael eu heffeithio gan salwch meddwl.