Os bydd poen dannedd neu ddeintgig yn datblygu, cysylltwch â'ch Deintydd eich hun oherwydd gallant ddarparu triniaeth frys.
Os ydych chi'n derbyn triniaeth ddeintyddol frys bydd y tâl yn £14 oni bai eich bod wedi'ch eithrio rhag talu taliadau GIG. Os na fydd yn rhaid i chi dalu am driniaeth, gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth o hyn pan fyddwch chi'n mynychu'r Practis.
Nid yw'r ddannodd ar ei phen ei hun (er enghraifft, y ddannodd heb unrhyw symptomau nag arwyddion eraill) yn Argyfwng Deintyddol. Ni ddylai cleifion sydd â'r ddannodd fynd i Adran Achosion Brys.