Neidio i'r prif gynnwy

Optegydd

Gwasanaethau Gofal y Llygaid Brys

Os oes gennych unrhyw bryderon o gwbl am eich llygaid, bydd angen i chi weld Optometrydd y Stryd Fawr (a elwir hefyd yn Optegydd) ar unwaith. Bydd ef neu hi yn dweud wrthych a ydych yn gymwys i gael archwiliad iechyd y llygaid am ddim. Gelwir yr archwiliad hwn yn Archwiliad ar gyfer Problemau Llygaid Brys ac mae hwn ar gael o dan Wasanaeth Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS).

Fel rhan o archwiliad ar gyfer problem frys gyda’r llygaid, bydd yr optometrydd yn archwilio'ch llygaid yn ofalus i weld a oes unrhyw beth o'i le. Bydd y profion a'r offer y maent yn eu defnyddio yn dibynnu ar yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud wrthynt a’r hyn y maent yn ei ddarganfod. Mae archwiliad o’r llygaid ar gyfer problem frys gyda’r llygaid yn archwiliad fwy manwl, ac yn wahanol i brawf golwg arferol felly gall gymryd mwy o amser. Os yw'r optometrydd yn penderfynu bod angen archwiliad arnoch am broblem frys gyda'r llygaid, ni fydd hyn yn costio unrhyw beth i chi.

Gallwch ddod o hyd i optometrydd ar y rhan fwyaf o Strydoedd Mawr yng Nghymru. Os oes gennych broblem gyda’ch golwg, gallwch fynd at eich optometrydd presennol (os oes gennych un), neu gallwch ffonio neu gerdded i mewn i unrhyw bractis sydd o fewn cyrraedd i chi.

Catherine McNamara, Ymarferydd Gofal Sylfaenol ac Ymgynghorydd Optometrig Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sy'n esbonio mwy am y Gwasanaeth Gofal y Llygaid Brys yn y fideo byr hwn 

Optometry Services (Welsh) from ABUHB Vimeo on Vimeo.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru.

Os oes gennych broblem y tu allan i oriau gwaith arferol, ffoniwch 111 am gyngor.

Gall fferyllwyr drin llid (bacterial) a llygaid sych o dan y cynllun anhwylderau cyffredin. Gweler y dudalen hon am fwy o fanylion neu ewch at eich fferyllydd lleol.