Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn ffodus iawn i dderbyn nifer o roddion wyau Pasg ac anrhegion i'n ward plant ac Uned Asesu Argyfwng i Blant, ynghyd â'n Canolfannau i Blant.
Diolch yn fawr iawn i bawb a anfonodd roddion - gan gynnwys clybiau rygbi a phêl-droed lleol, ac elusennau. Maent wedi gwella diwrnodau nifer fawr o gleifion ac mae'ch haelioni'n cael ei werthfawrogi'n fawr.