Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Optegydd Lleol yn Helpu Cleifion i Osgoi Ymweliadau ag Ysbyty: Stori Jordan

Pan ddechreuodd Jordan, 33 oed o Gwmbrân, brofi problemau gyda’i lygaid yn ei dridegau cynnar, ni sylweddolodd nad ei feddygfa Meddyg Teulu oedd y llwybr cyflymaf i gael help, ond yn hytrach, ei optegydd lleol. 

“Roeddwn i’n mynd yn ôl ac ymlaen at y meddygon bob pythefnos i dair wythnos,” eglurodd. “Doeddwn i ddim yn sylweddoli mai at yr optegydd yr oedd angen i mi fynd i gael cymorth.” 

Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, cafodd Jordan ddiagnosis o Episcleritis, cyflwr llygaid llidiol gydol oes a all waethygu’n gyflym pan mae wedi blino neu dan straen. Mae'r symptomau'n cynnwys llygaid poenus, graeanog, sensitifrwydd i olau, ac, os na chaiff ei drin, chwydd digon difrifol i orfodi ei lygaid i gau. 

“Ar y pryd, pryd bynnag y byddai fy symptomau’n gwaethygu, roeddwn i’n arfer mynd at optometrydd a fyddai wedyn yn fy atgyfeirio at y clinig llygaid yn Ysbyty Brenhinol Gwent,” meddai. “Weithiau roedd hyn yn golygu oedi cyn cael triniaeth am ychydig ddyddiau, ac roedd yn achosi llawer iawn o straen.  Byddai fy symptomau’n gwaethygu, byddwn i’n cael trafferth cysgu, ac weithiau roedd yn rhaid i mi gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith.” 

Newidiodd popeth yn ystod un fflamychiad penodol. Allan o anobaith, chwiliodd Jordan ar-lein am “optometrydd rhagnodi” a daeth o hyd i bractis lleol yng Nghasnewydd a oedd yn cynnig y gwasanaeth yr oedd ei angen arno. 

“Dim ond deg munud o daith mewn car o’r gwaith oedden nhw, mor hawdd cyrraedd atyn nhw. Rydw i wedi bod gyda nhw ers dwy flynedd nawr,” meddai. 

Mae'r optometrydd sy'n rhagnodi yn y practis yn gallu asesu cyflwr Jordan a rhoi'r presgripsiynau sydd eu hangen arno ar gyfer triniaeth, gan ddileu'r angen am ymweliadau â'r ysbyty. 

“Mae wedi gwneud cymaint o wahaniaeth. Mae'r tîm wir yn poeni, maen nhw wedi dod i'm hadnabod ac maen nhw'n deall fy nghyflwr. Mae'n gwneud popeth gymaint yn haws.” 

Disgrifiodd Jordan fflamychiad diweddar ddau ddiwrnod cyn y Nadolig, y foment honno, roedd yn ofni y byddai'n dioddef trwy gydol cyfnod y Nadolig. 

“Ffoniais yr optegydd a galwodd y derbynnydd fi yn ôl mewn llai na munud ar ôl siarad â’r optometrydd rhagnodi. Doedd hi ddim hyd yn oed i fod yn y gwaith y diwrnod hwnnw, ond rhoddodd apwyntiad i mi. Mae'r gofal a'r gwasanaeth cwsmeriaid yr ydych yn ei gael mewn practis lleol yn anhygoel.” 

Mae bellach yn cael archwiliadau rheolaidd, trafodaethau cyson am driniaeth, a gofal cydlynol rhwng yr optegydd a'i bractis meddyg teulu. 

“Maen nhw wedi bod fel chwa o awyr iach,” meddai. “Mae gallu cael triniaeth yn gyflym, yn agos at adref, wedi newid popeth.”