Mae Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn chwilio am gleifion, aelodau o’u teuluoedd, neu ofalwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a fyddai'n fodlon rhannu eu profiadau o Clostridioides difficile (C. diff) fel rhan o brosiect fideo byr sydd ar ddod.
Bydd y straeon hyn yn helpu i amlygu effaith go iawn C. diff i’n cydweithwyr yn y GIG a chefnogi ymdrechion i leihau’r cyfraddau haint ledled Cymru.
Os oes gennych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, ddiddordeb mewn cymryd rhan, rhannwch y cyfle hwn gydag ef neu hi a gofynnwch iddo/iddi gysylltu â ni naill ai drwy anfon e-bost i NHSPI.BehaviourScience@wales.nhs.uk neu drwy'r ffurflen fer hon.