Neidio i'r prif gynnwy

Opsiynau Cyfyngedig ym Mwytai Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Gwynllyw

Sylwer - oherwydd prinder staff yn y brif gegin yn Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Gwynllyw, dim ond opsiynau cyfyngedig fydd ar gael yn y bwyty dros y dyddiau nesaf ar gyfer staff/ymwelwyr.

  • Bydd bwyty Ysbyty Gwynllyw ar gau i frecwast ond bydd yn agor i ginio dros y dyddiau nesaf. Os bydd amgylchiadau'n newid, byddwn yn agor ar gyfer brecwast.
  • Bydd bwyty Ysbyty Brenhinol Gwent yn parhau i fod ar agor ond gyda'r newidiadau canlynol:
    • Bydd eitemau brecwast yn gyfyngedig gyda thost, grawnfwyd, ffrwythau ac uwd. Ar rai dyddiau, efallai y byddwn yn gallu cynnig selsig a bacwn ar gyfer brechdanau, ond bydd hyn yn cael ei gadarnhau ar y diwrnod a'i ddarparu.
    • Lleihau dewisiadau bwydlen am ginio a swper – Bydd hyn yn cyd-fynd â'n bwydlenni cleifion.

Ymddiheurwn am yr anghyfleustra y gallai hyn ei achosi a diolch am eich cefnogaeth.