Neidio i'r prif gynnwy

Yn ystod ac ar ôl y Clinig

Pan fyddwch yn cyrraedd y clinig bydd eich arsylwadau clinigol yn cael eu cymryd a'u cofnodi gan aelod o'n tîm. Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan ymgynghoriad clinigol. Fe'ch anogir i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych i'r staff clinigol.

Pan fyddwch chi'n cwrdd â'r meddyg, bydd yn cymryd hanes ac efallai y bydd yn eich archwilio. Rydym yn eich cynghori i wisgo dillad llac a chyfforddus y gellir eu tynnu'n hawdd. Bydd y meddyg yn mynd trwy'ch canlyniadau a chynllun rheoli a allai gynnwys atgyfeiriad i adran arall neu brofion pellach.

Mae gennym hefyd staff Nyrsio ar y safle sydd yma i gefnogi cleifion a'u teuluoedd.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ar ôl i chi fynychu'r clinig mae croeso i chi siarad ag aelod o staff neu os yn ddiweddarach cysylltwch â ni ar y rhif isod.

 

01873 732316

8:00am – 16:00pm Llun - Gwener

 

Bydd eich meddyg teulu yn derbyn llythyr clinig yn fuan ar ôl eich apwyntiad (wythnos fel arfer).