Mae'n bwysig meddwl yn gynnar am sut y byddwch chi'n cyrraedd eich apwyntiad ysbyty ac yna’n mynd gartref. Fe ddylech ofyn i deulu/ffrindiau/gofalwyr wirio a fyddent yn gallu eich casglu. Os oes gennych chi fagiau/eitemau ychwanegol, trefnwch i'r rhain gael eu casglu cyn i chi gael eich rhyddhau. Edrychwch ar amserlenni neu wefannau trafnidiaeth gyhoeddus (isod). Bydd y rhain yn eich helpu i gynllunio'ch taith, dyma rai opsiynau ar gyfer cyrraedd ein hysbytai:
Gall Cymdeithasau Trafnidiaeth Gymunedol eich helpu i ddod o hyd i ddarparwyr trafnidiaeth gymunedol neu wirfoddol yn eich sir. Mae hyn yn ddefnyddiol os nad ydych chi'n gymwys ar gyfer ein gwasanaeth trafnidiaeth cleifion ac na allwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol yn wasanaethau lleol sydd wedi'u teilwra i anghenion y teithiwr. Maent yn darparu trafnidiaeth i bobl a fyddai fel arall dan anfantais oherwydd oedran, symudedd, anabledd neu leoliad ac maent yn rhedeg gwasanaeth drws i ddrws wedi'i deilwra.
Ledled Cymru, mae miloedd o staff a gwirfoddolwyr trafnidiaeth gymunedol yn helpu pobl i aros yn annibynnol, cymryd rhan yn eu cymunedau a chael mynediad at wasanaethau cyhoeddus hanfodol a chyflogaeth.
Ffôn: 01792 844 290
Ewch i wefan y CTA am ragor o wybodaeth
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gallech fod â hawl i helpu gyda chostau teithio ar gyfer mynychu apwyntiad ysbyty.