Mae yna arwyddion a symptomau y dylech edrych amdanynt yn dilyn gweithdrefn endosgopi. Bydd y nyrs sy'n rhyddhau yn mynd trwy'r rhain gyda chi a bydd yn rhoi cyngor ysgrifenedig i chi ar beth i'w wneud os oes gennych unrhyw broblemau.
Os oes unrhyw beth nad ydych yn siŵr amdano pan fyddwch chi'n cyrraedd adref, cysylltwch â'r uned endosgopi fel y gall y staff eich helpu. Os yw'r uned endosgopi ar gau, gallwch hefyd gysylltu â GIG 111 ar unrhyw adeg.
Os ydych chi'n meddwl bod angen sylw meddygol ar unwaith, ffoniwch 999 neu mynychwch eich adran damweiniau ac achosion brys agosaf.