Neidio i'r prif gynnwy

Mynychu eich prawf

Ar ddiwrnod eich apwyntiad mae'n bwysig eich bod chi'n barod a bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch. Cyn i chi adael ar gyfer eich apwyntiad, gwnewch yn siŵr bod gennych:

  • Eich ffurflen ganiatâd - dylai fod yn y pecyn o wybodaeth a gawsoch gyda'ch llythyr apwyntiad
  • Copi o'ch presgripsiwn (os ydych chi'n cymryd meddyginiaeth yn rheolaidd)
  • Newid sbâr o ddillad cyfforddus
  • Llyfr, e-ddarllenydd, neu dable i basio'r amser tra byddwch chi'n aros

Os oes gennych stoma, rydym hefyd yn argymell dod â'ch pecyn arferol o fagiau sbâr a cadachau.

Os ydych chi'n bwriadu cael sedation ar gyfer eich gweithdrefn, bydd angen oedolyn cyfrifol arnoch i fynd gyda chi adref o'r ysbyty. Bydd angen i chi hefyd gael rhywun a all aros gyda chi am 24 awr ar ôl y weithdrefn.