Neidio i'r prif gynnwy

Trefnu eich apwyntiad

Pan fyddwch yn cael eich cyfeirio am brawf endosgopi, bydd ein tîm amserlennu yn eich ychwanegu at y rhestr aros briodol. Pan fydd y tîm yn barod i gynnig apwyntiad i chi, byddant yn anfon llythyr atoch yn gofyn i chi gysylltu â nhw i drefnu eich apwyntiad.

Fel arfer, byddwch yn cael cynnig apwyntiad yn yr ysbyty agosaf sy'n cynnig y prawf sydd ei angen arnoch. Fodd bynnag, weithiau efallai y byddwch yn cael cynnig apwyntiad mewn ysbyty ymhellach i ffwrdd os yw'r amser aros yn fyrrach.

Os oes angen cludiant ysbyty arnoch, nodwch hyn wrth drefnu eich apwyntiad.

Er mwyn cael apwyntiad i chi cyn gynted â phosibl, gellir archebu eich prawf gydag endosgopigydd o unrhyw ryw. Os oes gennych ddewis neu angen penodol, nodwch hyn wrth drefnu eich apwyntiad.