Rydym yn edrych ar ein holl atgyfeiriadau fel arfer ac yn blaenoriaethu'r atgyfeiriadau hyn i gategorïau arferol a brys. Bydd unrhyw atgyfeiriadau yr ystyrir eu bod yn rhai brys yn derbyn cyswllt gan y gwasanaeth ffisiotherapi a gallwn drefnu ymgynghoriad ffôn / fideo lle gallwn asesu a darparu cyngor ac ymarferion lle bo angen. Os ystyrir bod eich atgyfeiriad yn arferol byddwch yn ymuno â'n rhestr aros a bydd ffisiotherapydd yn cysylltu â chi i drefnu ymgynghoriad ffôn / fideo pan fydd ar gael.
Os oes gennych bryderon neu os hoffech ragor o wybodaeth, byddem yn eich cynghori i gysylltu â ni ar 01633 748064 lle gallwn eich cynorthwyo.