Poen sy'n parhau am fwy na 12 wythnos er gwaethaf meddyginiaeth neu driniaeth yw poen cronig neu barhaus.
Rheoli byd o boen - Eich helpu chi i helpu'ch hun
Mae'r Tîm Rheoli Poen Cronig yma i helpu cleifion i reoli eu poen eu hunain. Dylid ei gwneud yn glir nad ydym yn wasanaeth diagnostig. Unwaith y caiff ei dderbyn i'r gwasanaeth bydd y claf yn cael ei adolygu yn y clinig gan un o'n tîm, yna penderfynir pa ymyriadau y gellir eu cynnig i gefnogi'r claf gyda hunanreolaeth o'i boen parhaus.
Gall hyn gynnwys pigiadau, Quetenza Patches, atgyfeiriad i ymuno â’n Rhaglen Rheoli Poen 8 wythnos (PMP), yn amodol ar adolygiad gan y Tîm PMP. Efallai y penderfynir hefyd, gyda'r wybodaeth a'r offer cywir, y gall y claf reoli ei boen heb fawr o ymyrraeth. Gall hunan-atgyfeirio i EPP, darllen trwy'r Pecyn Cymorth Poen neu arferion cyfannol weithio'n well iddynt.
Rydym yn wasanaeth Cleifion Allanol yn:
Canolfan Rheoli Poen Cronig
Ysbyty'r Sir
Ffordd Coed Y Gric
Griffithstown
Pontypwl
NP4 5YA