Neidio i'r prif gynnwy

Blinder - Ar gyfer Plant a Phobl Ifanc

 

Gallwn feddwl am ein lefelau egni fel batri, yn union fel yr un yn eich ffôn. Mae maint penodol i’r batri, mae angen ei wefru’n rheolaidd,  a bydd yn rhoi digon o egni i chi wneud yr holl weithgareddau yr ydych chi am eu gwneud yn ystod eich diwrnod. Pan fyddwch chi'n orflinedig, bydd maint eich batri egni’n llai, a bydd yn cymryd mwy o amser i'w wefru, a bydd yn defnyddio'r ynni sydd ar gael yn gyflymach, yn union fel y byddai hen ffôn yn ei wneud! Gall hyn olygu eich bod yn ei chael yn anoddach gwneud y pethau yr oeddech yn arfer eu gwneud yn hawdd.
 

Mathau o egni

Gallwn ddychmygu bod tri math gwahanol o egni:

  • Egni Actif/Corfforol: A ddefnyddir ar gyfer gweithgareddau corfforol megis cerdded, chwarae chwaraeon, neu hyd yn oed symud o gwmpas y tŷ
  • Egni Emosiynol: A ddefnyddir ar gyfer ein meddyliau, ein teimladau a’n emosiynau
  • Egni Cymdeithasol: A ddefnyddir ar gyfer rhyngweithio â ffrindiau, teulu a phobl yn yr ysgol

Rydyn ni'n defnyddio'r holl fathau gwahanol hyn o egni bob dydd. Gall rhai gweithgareddau “wefru” y batris hyn, a gall rhai eu “draenio”. Mae gwahanol weithgareddau yn defnyddio swm gwahanol o egni, a gwahanol fathau o egni. Mae'r rhan fwyaf o'r gweithgareddau rydyn ni'n eu gwneud yn defnyddio mwy nag un math o egni ar y tro, felly pan fydd eich batris egni'n isel, gall effeithio ar lawer o wahanol rannau o'ch bywyd. 
 

Y Cylch Boom A Bust
 

Pan fyddwch chi'n teimlo'n orflinedig iawn, gall gwneud dim byd deimlo'n haws. Yna, pan fyddwch yn cael diwrnod da, efallai y byddwch am wneud popeth yr hoffech ei wneud i gyd ar unwaith. Gall hyn wneud i’ch lefelau egni godi a gostwng yn union fel rollercoaster. Gelwir hyn yn Boom and Bust.



Pan fyddwn ni mewn cylch Boom and Bust, gall olygu eich bod yn treulio diwrnodau ar y tro yn peidio â gwneud unrhyw beth yr ydych chi'n ei fwynhau tra byddwch yn gwella ar ôl dyddiau Boom. Gall hyn hyd yn oed arwain at orfod cymryd ddiwrnodau i ffwrdd o'r ysgol tra byddwch yn gwella. Gall ei gwneud yn anodd iawn cydbwyso'r holl bethau yr ydych chi eisiau ac angen eu gwneud, a gall ei gwneud hi'n anodd teimlo eich bod chi'n gwella neu'n gwneud cynnydd.

Rheoli Gorflinder
 

Ffordd dda o reoli gorflinder yw gwneud ychydig ar y tro - gelwir hyn yn gwneud pethau’n raddol. Mae hyn yn golygu gwneud ychydig o weithgaredd pan fyddwch chi'n teimlo'n dda ond gan wneud yn siŵr nad ydych chi'n defnyddio'ch egni i gyd. Ceisiwch wneud rhywbeth yr ydych yn ei fwynhau, hyd yn oed ar eich dyddiau gwaethaf, er mwyn helpu i gadw eich lefelau egni yn fwy cytbwys. Bydd hyn yn gwneud y gromlin Boom and Bust yn fwy gwastad, ac yn ein galluogi inni wneud ychydig o'r hyn yr ydym yn ei fwynhau bob dydd. I gael rhagor o wybodaeth am gynyddu gweithgarwch, gweler ein tudalen Meddwl am Gynyddu Gweithgaredd.


Mae dyddiadur gweithgaredd yn arf gwych i'n helpu i reoli ein gorflinder. Mae'n ein helpu i gynllunio ein gweithgareddau trwy gydol y dydd a hyd yn oed yr wythnos. Drwy gynllunio, blaenoriaethu a gwneud ein gweithgareddau’n raddol, gallwn gadw ein gorflinder ar lefel ddiogel a gwneud yn siŵr ein bod yn osgoi’r Bust.

Mae rheoli ein lefelau egni yn flinedig ynddo'i hun. Pan fyddwn ni'n profi symptomau gorflinder, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n garedig gyda ni ein hunain a chofiwch nad oes rhaid i chi wneud popeth yn berffaith nac ar eich pen eich hun. Mae'n iawn gofyn i oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddynt am help. Nid oes rhaid i chi reoli hyn ar eich pen eich hun.