Neidio i'r prif gynnwy

Cysgu - Ar gyfer Rhieni, Gofalwyr ac Oedolion Dibynadwy

 

Yn aml iawn, bydd plant a phobl ifanc yn cael trafferth mynd i gysgu. Gall hyn fod yn waeth pan fyddant yn profi symptomau corfforol di-baid a/neu'n gwella ar ôl cael salwch. Mae cysgu yn bwysig iawn i bawb ohonom ni, ond yn enwedig i blant a phobl ifanc, oherwydd mae hynny'n helpu eu cof, eu twf, eu hwyliau a'u systemau imiwnedd. Weithiau, os bydd plant yn profi symptomau di-baid, efallai bydd eu harferion cysgu yn anhrefnus ac "o chwith" (cysgu yn ystod y dydd a bod yn effro yn ystod y nos). Gall hynny fod yn brofiad rhwystredig iddynt, ond bydd yn anodd hefyd i rieni, gofalwyr ac oedolion dibynadwy. Weithiau, gall 'cylch dieflig' ddigwydd pan fydd cysgu yn effeithio ar symptomau a symptomau yn effeithio ar gysgu, a bydd hi'n anodd dianc o'r cylch hwnnw.

Gall fod yn ddefnyddiol “rhoi sylw i'r hanfodion” yn achos dysgu. Dyma rywfaint o gynghorion y profwyd eu bod yn helpu plant a phobl ifanc i gysgu'n well.

  • Arferion amser gwely - gall annog pobl ifanc i gynnal arferion penodol cyn mynd i'r gwely eu helpu i ymlacio a gall hefyd feithrin cysylltiadau yn eu hymennydd sy'n helpu'r ymennydd i wybod pryd ddylid mynd i gysgu. Gall pennu'r arferion hyn ar y cyd â'ch plentyn (yn hytrach na'u pennu ar eu rhan) eu helpu i deimlo eu bod yn rheoli pethau ac yn annibynnol, a gall hynny eu hannog i gynnal yr arferion hyn. Gallech gynnwys pethau megis gwrando ar lyfr gyda'ch gilydd, gwrando ar lyfr sain neu orwedd mewn bath swigod, yn ogystal â phethau megis brwsio eu dannedd a gwisgo eu pyjamas.
  • Amseroedd mynd i'r gwely a deffro rheolaidd - mae'n bwysig iawn sefydlu trefn gyson yn ymwneud â chysgu. Bydd y cysondeb hwnnw yn helpu'r ymennydd i wybod pryd ddylem fod yn effro a phryd ddylem gysgu. Bydd codi ar yr un adeg bob dydd (ac ar benwythnosau hefyd!) yn ffordd ddefnyddiol iawn o roi trefn ar gloc y corff unwaith eto.
     
  • Lle i gysgu yw gwely! Er ei bod yn demtasiwn i blant a phobl ifanc orwedd ar eu gwely i wylio'r teledu, chwarae gemau, sgwrsio â'u ffrindiau neu ddarllen, mewn gwirionedd, bydd hyn yn gwanhau'r cysylltiad rhwng gwely a chysgu, a bydd hi'n anoddach mynd i gysgu yn ystod y nos. Gall sicrhau bod gan eich plentyn le cyfforddus a chlud i wneud y gweithgareddau hyn olygu ei bod yn haws iddynt roi'r gorau i'w gwneud yn eu gwely.
     
  • Amgylchedd da i gysgu ynddo - sicrhewch fod eu hystafell yn dywyll, yn lled oer, yn dawel ac yn gyfforddus. Ceisiwch sicrhau nad oes unrhyw glociau, goleuadau, setiau teledu neu ffonau yn eu hwynebu, oherwydd gall y rhain dynnu eich sylw a bydd hi'n anoddach mynd i gysgu oherwydd hynny. Gall defnyddio un o'u hoff deganau meddal neu eitem glyd arall helpu pobl ifanc i deimlo'n ddiogel ac wedi ymlacio pan fyddant yn eu gwely ac yn mynd i gysgu. Os bydd eich unigolyn ifanc yn ei chael hi'n anodd peidio â bod gyda chi yn ystod y nos, os bydd gan y ddau ohonoch chi eitem megis arth neu flanced, gall hynny fod yn ffordd hyfryd o'u helpu i wybod fod cysylltiad rhwng y ddau ohonoch chi, hyd yn oed pan fyddwch chi ar wahân.    
     
  • Dim pendwmpian! Gall fod yn anodd iawn peidio â chysgu am gyfnodau byr yn ystod y dydd, yn enwedig os bydd yr unigolyn ifanc yn flinedig iawn neu wedi ymlâdd, ond mae tystiolaeth yn profi fod cysgu am gyfnodau byr yn golygu ei bod yn llawer anoddach cysgu yn ystod y nos. Os bydd yn rhaid i bobl ifanc gysgu am gyfnod byr yn ystod y dydd, sicrhewch na fyddant yn cysgu mwy na 30 munud (gosodwch larwm!) a sicrhewch y bydd hynny'n digwydd cyn 3pm bob amser. Os byddant yn gorfod cysgu yn ystod y dydd, bydd yn syniad da gwneud hynny mewn ystafell olau, i osgoi cysgu'n rhy drwm.

Mae'n bwysig osgoi gweithgareddau swnllyd, cyffrous neu gorfforol cyn mynd i'r gwely - gall gwneud y pethau hyn gyffroi'r ymennydd ac nid yw ymennydd llawn cyffro yn gydnaws â chysgu'n dda trwy'r nos!  Mae gweithgareddau tawelach a digyffro megis lliwio, darllen neu wrando ar lyfrau sain yn ddewisiadau gwych yn lle pethau megis chwarae gemau neu ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.

Mae'r gwefannau a restrir isod yn cynnig llawer iawn rhagor o wybodaeth ynghylch helpu plant a phobl ifanc i gysgu'n well: