Neidio i'r prif gynnwy

Gofalwyr Ifanc

Mae byw gyda symptomau anodd neu barhaus yn effeithio ar fwy na dim ond yr unigolyn sy'n eu profi. Yn aml, mae'n rhaid dibynnu ar deulu a ffrindiau i helpu’r unigolyn hwnnw gyda'i weithgareddau bob dydd fel ymolchi neu wisgo amdano, siopa neu fynychu apwyntiadau meddygol. Mae'r cyfrifoldebau ychwanegol hyn yn gallu bod yn faich ar unrhyw un. Ond i blant a phobl ifanc, gallant effeithio ar agweddau eraill ar fywyd fel ysgol neu goleg, cyfeillgarwch neu wneud y pethau rydych am eu gwneud. Mae’n bwysig i chi sylweddoli nad ydych chi ar eich pen eich hun. Mae help ar gael i gefnogi plant a phobl ifanc sydd yn y sefyllfa hon.

Mae ‘gofalwr ifanc’ yn golygu unrhyw un dan 18 oed sy’n helpu i ofalu am berthynas ag anabledd neu salwch. Yng Nghymru, mae gan ofalwyr ifanc hawl i gael ‘asesiad gofalwr’. Gall hyn gynnwys cyfarfod â gweithiwr cymdeithasol neu unigolyn arall y gellir ymddiried ynddo sydd â phrofiad o helpu gofalwyr ifanc. Maen nhw’n debygol o fod eisiau gwybod eich hanes, y math o gefnogaeth rydych chi’n ei rhoi i’ch perthynas, a’r effaith mae'n ei chael ar eich bywyd a’ch lles. Ar ôl eich asesiad, byddwch yn cael gwybod am unrhyw gymorth ychwanegol sydd ar gael a allai eich helpu chi a/neu'ch perthynas.

Mae'n gallu bod yn anodd iawn gofyn am help, yn enwedig os ydych chi wedi bod yn cael trafferthion ers amser maith. Ond mae'n bwysig cael cymorth fel y gallwch chi a'ch perthynas ymdopi. Dyma fanylion cyswllt y gwasanaethau a all eich helpu yn eich ardal chi:

 

Mae awgrymiadau ychwanegol gan gynnwys cymorth i ofalwyr ifanc sydd yn yr ysgol hefyd ar gael ar wefan GIG y DU.