Neidio i'r prif gynnwy

Cyfrinachedd

Pan fyddwch yn siarad ag Ymarferydd Seicolegydd, bydd y rhan fwyaf o'r hyn y byddwch yn ei drafod yn cael ei gadw'n breifat ac yn gyfrinachol. Mae hyn yn golygu na fydd yr hyn a ddywedwch yn cael ei rannu ag unrhyw un arall os nad ydych am iddo fod.

Yr adegau pan fo hyn yn eithriad yw:

  • Os bydd y seicolegydd yn teimlo bydd eich gofal diabetes yn cael ei wella gan y tîm diabetes yn gwybod rhywfaint o'r drafodaeth
  • Os yw'r seicolegydd yn poeni am eich diogelwch ac yn teimlo bod angen mewnbwn gan wasanaethau ychwanegol.

 

Eich cadw’n ddiogel yw’r peth pwysicaf, a’n dyletswydd gofal ni yw sicrhau bod hyn yn digwydd. Os ydych chi'n teimlo'n ansicr ynglŷn â'r wybodaeth y gellir ei rhannu gyda'r tîm, mae croeso i chi drafod hyn gyda'ch seicolegydd yn eich apwyntiad cyntaf.