Neidio i'r prif gynnwy

Ymwybyddiaeth O'r Haul

Canser y croen yw un o'r canserau mwyaf cyffredin yn y DU ac mae nifer y bobl sy'n ei ddatblygu yn cynyddu o hyd.

Gormod o ymbelydredd uwchfioled (UV) o'r haul neu welyau haul yw prif achos canser y croen. Yn y DU, gellid atal bron i 9 o bob 10 achos o felanoma, y math mwyaf difrifol o ganser y croen, drwy fwynhau’r haul yn ddiogel ac osgoi defnyddio gwelyau haul (Cancer Research UK, Ebrill 2017)

Mae'n bwysig amddiffyn eich croen rhag yr haul er mwyn atal canser y croen.

Dyma rai awgrymiadau ar gyfer cadw'n ddiogel yn yr haul:

  • Mae eli haul gydag o leiaf SPF 30 a sgôr UVA o 5 neu 6 seren yn cael ei ystyried yn gyffredinol fel safon dda o amddiffyniad rhag yr haul yn ogystal â chysgod a dillad.
  • Rhowch eli haul ymlaen o leiaf 15 munud cyn mynd allan a'i rhoi ymlaen eto bob dwy awr, yn enwedig yn ystod ymarfer corff neu nofio.
  • Gwisgwch sbectol haul gyda sgôr UV400 a marc CE.
  • Gwisgwch het ymyl llydan sy'n gorchuddio'r pen, y clustiau a'r gwddf
  • Arhoswch allan o'r haul yn ystod oriau brig, sef 11yb - 3yp.
  • Eisteddwch yn y cysgod ac arhoswch allan o olau haul uniongyrchol.

 

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor, gallwch ymweld â’r gwefannau canlynol: