Neidio i'r prif gynnwy

Lle rydym wedi ein lleoli

Cleifion Allanol / Unedau Dydd

Darperir y gwasanaethau a'r clinigau cleifion allanol hematoleg yn Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Nevill Hall:

Uned Achosion Dydd Meddygol
Ysbyty Brenhinol Gwent
Heol Caerdydd
Casnewydd
NP20 2UB

Mae'r Uned Achosion Dydd Meddygol wedi'i lleoli ar drydydd llawr Ysbyty Brenhinol Gwent (gyferbyn â'r ffreutur). Yr oriau agor yw dydd Llun i ddydd Gwener 09:00am – 5:00pm. Mae ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc.

Mae'r adran yn cynnig gwasanaeth cleifion allanol Hematoleg, a darpariaeth uned ddydd ar gyfer cemotherapi, trallwysiadau a fflebotomi.

Cynhelir clinigau cleifion allanol yn yr uned hefyd:

  • Hemostasis a Thrombosis (Dydd Llun)
  • Lymffoid (Dydd Mawrth)
  • Myeloid (Dydd Mercher a Dydd Iau)
  • Myeloma (dydd Mercher y prynhawn)

Rhif Ffôn Cyswllt: 01633 234647

 

Uned Achosion Dydd Hematoleg
Ysbyty Nevill Hall
Ward 2:4
Ffordd Aberhonddu
Y Fenni
NP7 7EG

Mae'r Uned Achosion Dydd wedi'i lleoli ar ail lawr Ysbyty Nevill Hall yn Ward 2:4. Mae'r adran yn cynnig gwasanaeth cleifion allanol Hematoleg, a darpariaeth uned ddydd ar gyfer cemotherapi, trallwysiadau a fflebotomi.

Oriau Gwaith: Dydd Mawrth – Dydd Gwener o 08:30am – 4:30pm. Mae ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc.

Cynhelir clinigau cleifion allanol yn yr uned hefyd.

  • Hemostasis a Thrombosis (Dydd Llun a Dydd Mawrth)
  • Myeloid (Dydd Mawrth)
  • Lymffoid (Dydd Mercher)
  • Myeloma (Dydd Iau)

Rhif Ffôn Cyswllt: 01873 732410