Wrth wraidd ein cymunedau ledled Gwent, mae menywod ac unrhyw un sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd menywod, dim ots pa oed, yn haeddu teimlo eu bod yn cael eu clywed, eu deall a'u cefnogi. Rydym am i fenywod ledled Gwent deimlo'n wybodus, yn hyderus, a theimlo eu bod yn cael eu grymuso i gymryd perchnogaeth o'u hiechyd.
Rydym am i bawb gael y wybodaeth, y dewis a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i wneud penderfyniadau sy'n adlewyrchu eu blaenoriaethau iechyd, cefnogi eu lles, a'u helpu i fyw'n dda yn ystod pob cam o fywyd.
Ar y dudalen hon, gallwch ddod o hyd i wybodaeth i'ch helpu i fyw bywyd iach, manylion am grwpiau cymunedol a digwyddiadau lleol yn eich ardal chi i gefnogi eich iechyd, a chanllawiau ar sut i gael rhagor o gymorth gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol pe bai ei angen arnoch chi.