Neidio i'r prif gynnwy

Pryd i Ofyn am Gyngor Meddygol

Arwyddion sy’n Rhybuddio’n Gynnar

Er y gall cylchoedd mislif amrywio, ni ddylid anwybyddu rhai symptomau.

Dylech geisio cyngor meddygol os byddwch yn profi gwaedu trwm iawn (fel gwlychu padiau neu dampons bob awr), poen difrifol yn y pelfis neu boen sy’n gwaethygu, neu  eich mislif yn dod i ben yn annisgwyl pan nad ydych yn feichiog, yn bwydo ar y fron nac yn agosáu at y menopos. Mae arwyddion rhybudd eraill yn cynnwys gwaedu rhwng mislif, gwaedu ar ôl rhyw, neu symptomau sy'n ymyrryd yn sylweddol â gweithgareddau dydd i ddydd. Gall gweithiwr gofal iechyd proffesiynol helpu i nodi'r achos a chynnig cymorth priodol.