Os oes angen i chi ganslo neu aildrefnu eich apwyntiad, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl drwy gysylltu â'r tîm trefnu apwyntiadau. Mae hyn yn rhoi'r cyfle gorau posibl i ni allu cynnig eich apwyntiad i rywun arall.
Rydym yn deall y gall amgylchiadau newid yn gyflym, a heb fawr o rybudd. Hyd yn oed os oes angen i chi ganslo eich triniaeth ar fyr rybudd, rydym bob amser yn gofyn i chi gysylltu â ni yn gyntaf yn hytrach na pheidio â mynychu.
Gallwch ffonio'r Tîm Trefnu Apwyntiadau, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00am a 5.00pm
Ffôn: 01633 234981/234972
E-bostiwch abb.urologyoutpatients@wales.nhs.uk [Cleifion Allanol]
E-bost: Abb.urology.treatment.booking@wales.nhs.uk [Triniaethau, fel achosion dydd a llawdriniaethau]
Wrth e-bostio, cofiwch roi eich enw llawn, dyddiad geni a rhif cyswllt fel y gallwn ddod o hyd i chi ar ein systemau.
Yn unol â rheolau atgyfeirio i driniaeth Llywodraeth Cymru, bydd methu â mynychu apwyntiad y cytunwyd arno neu ganslo dau apwyntiad y cytunwyd arnynt yn arwain at eich rhyddhau o'n gofal.