Neidio i'r prif gynnwy

Lle rydym wedi ein lleoli

Mae ein gwasanaeth cleifion mewnol a chleifion allanol wedi'i leoli'n bennaf yn Ysbyty Brenhinol Gwent. Mae clinigau cleifion allanol ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener ar wahanol adegau yn ystod y dydd rhwng 8:00am a 5:30pm.

Efallai y gofynnir i chi hefyd fynychu clinigau Anymataliaeth a PAS yn Ysbyty Cymunedol Cas-gwent - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (nhs.wales)

Mae ein hysbytai yn safleoedd di-fwg. Mae hyn yn golygu nad oes caniatâd i ysmygu yn unman ar y tir. Mae hyn yn cynnwys mynedfeydd allanol ac yn ein meysydd parcio a'n tiroedd. Mae'r gwaharddiad ysmygu yn berthnasol i bawb.