Mae ein Hadran yn cynnwys amrywiaeth o ymgynghorwyr, meddygon arbenigol a chofrestryddion hyfforddi, nyrsys arbenigol, a thimau ward. Rydym yn cael ein cefnogi gan nifer o staff gweinyddol a staff rheoli.
Ymgynghorwyr – Dyma'r meddygon mwyaf profiadol y byddwch chi'n cwrdd â nhw. Fel arfer maen nhw'n goruchwylio gofal cleifion. Gelwir ymgynghorwyr yn yr adran Wroleg yn Wrolegwyr.
Meddygon Iau – Mae Meddygon Iau yn derm sy'n cwmpasu meddygon o bob lefel nad ydynt yn ymgynghorwyr. Gall y term "iau" fod yn gamarweiniol – gall rhai meddygon "iau" fod yn gofrestryddion arbenigol uwch sydd wedi bod yn gweithio fel meddygon ers nifer o flynyddoedd.
Staff Nyrsio – Mae ein timau ward a thimau wroleg yn cynnwys staff sydd ag amrywiaeth o brofiad. Eu nod yw gwneud eich arhosiad yn yr ysbyty mor hawdd a chyfforddus â phosibl. Mae gwisgoedd nyrsio wedi'u codio lliw yn dibynnu ar eu rôl:
Glas Golau – Staff Nurses | Nyrs Staff
Glas Tywyll –Ward Managers | Rheolwr Ward
Glas Brenhinol – Specialist Nurses | Nyrs Arbenigol
Gwyrdd – Healthcare Support Workers | Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd
Porffor – Student Nurses | Nyrs Dan Hyfforddiant
Du – Senior Nurses / Hospital Managers | Uwch Nyrs / Rheolwr Ysbyty
Noder: os nad ydych chi'n siŵr beth yw rôl rhywun, mae croeso i chi ofyn iddyn nhw.