Wedi'i leoli ar Lefel 2 Ysbyty Brenhinol Gwent, mae ein hadran cleifion allanol fawr yn cynnwys 8 ystafell ymgynghori, 2 ystafell cystosgopi hyblyg, ein hystafell Wrodynameg fawr, ystafell sganio a biopsi ac ystafelloedd cyn-asesu. Yma rydym yn cynnal amrywiaeth o Glinigau dan Arweiniad Nyrsys megis triniaethau'r bledren, Hunangathetreiddio/Ymledu Ysbeidiol (ISC/ISD), clinigau Uroflow, clinigau chwistrellu hormonau (hormon rhyddhau hormon Luteineiddio neu LHRH), clinig Haint y Llwybr Wrinol a chlinigau wroleg swyddogaethol; yn ogystal â Chlinigau Ymgynghorwyr ac Arbenigwyr megis Oncoleg ac Wroleg Bediatrig.
Rydym yn gweithio ochr yn ochr ag Wrolegwyr Ymgynghorol, Nyrsys Clinigol Arbenigol Uno-Oncoleg, Nyrsys Clinigol Arbenigol Wroleg Swyddogaethol, Ymarferwyr Nyrsio Wroleg a staff cymorth.
Dim ond trwy eich meddyg teulu y gallwch gael eich atgyfeirio i'r gwasanaeth. Caiff pob atgyfeiriad ei wirio gan ymgynghorydd a fydd hefyd yn penderfynu ar y cam nesaf ar gyfer eich gofal. Os yw'r ymgynghorydd o'r farn bod angen profion pellach ar eich symptomau, gallant ofyn am y rhain heb yr angen am apwyntiad mewn clinig yn gyntaf i gyflymu eich gofal.
Os yw'r ymgynghorydd yn meddwl bod angen apwyntiad mewn clinig arnoch chi yn gyntaf, byddant yn eich ychwanegu at y rhestr aros gywir.
Os bydd eich symptomau'n newid neu'n gwaethygu tra byddwch chi'n aros i gael eich gweld gan yr adran Wroleg, ewch i weld eich meddyg teulu eto fel y gallant eich ailasesu ac ysgrifennu at yr adran os oes angen. Os ydych chi'n teimlo bod angen sylw meddygol ar unwaith arnoch chi, ewch i'ch adran Damweiniau ac Achosion Brys fawr agosaf, neu ffoniwch 999 os na allwch chi gyrraedd yno'n ddiogel.
Os ydych chi'n glaf mewnol yn un o'n hysbytai, efallai y byddwch chi'n cael eich atgyfeirio gan yr Ymgynghorydd sy'n rheoli eich gofal.