Neidio i'r prif gynnwy

Cyflenwad brys o feddyginiaeth

Os byddwch yn rhedeg allan o feddyginiaeth bresgripsiwn ac yn methu â chael presgripsiwn cyn eich dos nesaf, efallai y byddwch yn gallu cael cyflenwad brys o fferyllfa. Dylech fynd â hen slip presgripsiwn/ailadrodd neu'r pecyn meddyginiaeth gyda chi i'r fferyllfa, os oes gennych chi.

Byddwch yn cael eich asesu gan y fferyllydd i ddarganfod:

· Os oes angen y feddyginiaeth arnoch ar unwaith.

· Pwy ragnododd y feddyginiaeth yn flaenorol.

· Pa ddos o'r feddyginiaeth rydych chi'n ei gymryd fel arfer.

Mae angen i'r fferyllydd wybod yr atebion i'r cwestiynau hyn cyn y gallant wneud cyflenwad brys o feddyginiaeth presgripsiwn yn unig. Byddant yn cadw cofnod o'ch manylion, y feddyginiaeth a ddarperir ganddynt a natur yr argyfwng. Bydd y fferyllydd hefyd yn rhoi gwybod i'ch meddyg teulu bod cyflenwad brys wedi'i wneud.

Mewn rhai achosion, efallai na fydd y fferyllydd yn gallu gwneud cyflenwad oherwydd y math o feddyginiaeth sydd ei hangen arnoch a gofynion y gwasanaeth. Os felly, bydd y fferyllydd yn esbonio unrhyw opsiynau eraill sydd ar gael i chi.

Bydd y fferyllydd fel arfer yn cyflenwi digon o feddyginiaeth i roi amser i chi gael presgripsiwn, ond mewn rhai achosion, dim ond pecyn o faint penodol y bydd yn gallu ei roi i chi ee y tiwb lleiaf o eli neu ffiol unigol o inswlin.

Mae'r gwasanaeth yn dibynnu ar set o ofynion cyfreithiol i ganiatáu i fferyllwyr wneud y cyflenwadau, ac ni ellir cyflenwi rhai meddyginiaethau, fel poenladdwyr cryf. Fodd bynnag, hyd yn oed yn y sefyllfa hon, fferyllydd yw'r person gorau i siarad ag ef.

I ddod o hyd i fferyllfa yn eich ardal sy'n darparu'r gwasanaeth hwn, ewch i GIG 111 Cymru a dewiswch 'cyflenwad brys o feddyginiaeth' o'r rhestr hidlo ar yr ochr chwith.