Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Atal Cenhedlu

Mae atal cenhedlu brys (bilsen bore wedyn) ar gael yn rhad ac am ddim i bobl 13 oed neu hŷn sydd â photensial i gael plant ac sydd wedi cael cyfathrach rywiol heb ddiogelwch yn ystod y 5 diwrnod diwethaf. Gall y gwasanaeth hefyd ddarparu cyflenwad 3 mis o ddulliau atal cenhedlu rheolaidd i'r rhai sydd ei angen. Mae'r gwasanaeth fferyllfa yn cynnig mynediad cyfleus i gleifion gan nad oes angen apwyntiad.

Mae'n rhaid i'r gwasanaeth gael ei ddarparu gan fferyllydd achrededig ac mae'n cynnwys asesiad cyfrinachol i ganfod y math mwyaf priodol o atal cenhedlu brys. Argymhellir eich bod yn gwirio gyda'r fferyllfa cyn mynychu a yw'r fferyllydd ar gael. Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer y rhai 13 oed a hŷn sydd angen atal cenhedlu brys.

I ddod o hyd i fferyllfa yn eich ardal sy'n darparu'r gwasanaeth hwn, ewch i GIG 111 Cymru a dewiswch 'darparu atal cenhedlu brys' o'r rhestr hidlo ar yr ochr chwith.