Sut allwn ni gefnogi eich plentyn
Mae Nyrsys Ysgol yn gweithio gyda phob plentyn a pherson ifanc 5-16 oed, ta waeth ym mhle caent eu haddysgu. Mae Nyrsys Ysgol yn rhoi cyngor cyfeillgar a chyfrinachol i helpu plant a phobl ifanc i wneud dewisiadau da ar gyfer dyfodol iach. Mae Nyrsys Ysgol yma i wrando ar unrhyw bryderon sydd gennych chi neu'ch plentyn am eu hiechyd a'u lles.
- Cefnogaeth iechyd emosiynol a lles
- Brechiadau plentyndod
- Cyngor glasoed a hylendid
- Enuresis nosol / Cymorth toiled
- Cyngor maeth a thwf
- Pryderon ac ymddygiad datblygiadol
- Iechyd rhywiol a pherthnasoedd
- Asesiadau iechyd diogelu a phlant sy'n derbyn gofal
- Cyngor ar gyffuriau, ysmygu, vapio ac alcohol
Sut i gyfeirio at y Gwasanaeth Nyrsio Ysgol
- Yn gyntaf, ceisiwch ganiatâd y person ifanc - neu ceisiwch ganiatâd rhiant - cyn gwneud atgyfeiriad. Rhowch wybod iddynt eich bod yn teimlo y byddent hwy/eu plentyn yn elwa o gefnogaeth eu nyrs ysgol
- Nesaf, gallwch gwblhau atgyfeiriad trwy lenwi ein Ffurflen Atgyfeirio Ar-lein
- Neu, os hoffech siarad â'n tîm, gallwch ffonio ein llinell atgyfeirio ar 01633 431685
Os yw'r plentyn rhwng 11 a 19 oed, rhowch wybod iddynt y gallant anfon neges destun atom yn ddienw ar 07312 263262 am gefnogaeth a chyngor cyfrinachol
Rôl y Nyrs Ysgol yw:
- Asesu a diwallu anghenion iechyd plant oedran ysgol drwy raglen barhaus o oruchwyliaeth iechyd, monitro, atgyfeirio ac ymyrraeth.
- Hyrwyddo iechyd plant oedran ysgol a chymuned ehangach yr ysgol, drwy raglenni gweithgareddau addysg iechyd yn yr ysgol a'r gymuned, drwy fewnbwn uniongyrchol i raglenni addysg iechyd yr ysgol ac addysgu ochr yn ochr â staff addysg yn y dosbarth.
- Cyfrannu at nodi ac amddiffyn plant oedran ysgol sydd mewn perygl o gam-drin, darparu monitro, cefnogaeth a chyngor parhaus i blant agored i niwed a phlant sydd wedi'u cam-drin a'u teuluoedd.
- Trefnu a chyflwyno mentrau iechyd cyhoeddus e.e. rhaglenni imiwneiddio mewn ysgolion, drwy addysg, codi ymwybyddiaeth rhieni, plant a staff addysgu.
Cyngor a Gwybodaeth Iechyd i Weithwyr Proffesiynol
Mae gan bob ysgol dîm nyrsio y gellir cysylltu â nhw am gyngor a chymorth. Mae'r dolenni ar y dudalen Nyrsio Ysgol yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ac adnoddau y gellir eu lawrlwytho a all gefnogi teuluoedd, gweithwyr proffesiynol ac ysgolion.