Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau/Diweddariadau Gwasanaeth Meddygon Teulu

Mae’r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am ddarparu Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS) i drigolion ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac mae’n comisiynu gwasanaethau gan gontractwyr annibynnol drwy Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023.

Mae 67 o bractisau cyffredinol yn gyfrifol am ddarparu gofal i gleifion rhwng 8.00 am a 6.30 pm o Ddydd Llun i Ddydd Gwener. Y tu allan i'r “oriau craidd” hyn, darperir mynediad at ofal meddygol gan Wasanaeth y Tu Allan i Oriau'r Bwrdd Iechyd, sy'n gweithredu rhwng 6.30 pm ac 8.00 am bob nos yn ystod yr wythnos a thrwy gydol penwythnosau a Gwyliau Banc..

Pan fydd y Bwrdd Iechyd yn derbyn ymddiswyddiad contract, mae Panel Practis Gwag yn cyfarfod i ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael i sicrhau bod cleifion yn parhau i gael mynediad i Bractis Meddyg Teulu. Mae'r Panel hwn yn cynnwys cynrychiolaeth o Bwyllgor Meddygol Lleol Gwent a chorff llais dinesydd, Llais.