Neidio i'r prif gynnwy

Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016

Beth yw’r Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru)?

Daeth y Ddeddf yn gyfraith yng Nghymru ym mis Mawrth 2016 ac mae’n gosod dyletswydd ar ymddiriedolaethau a byrddau iechyd Cymru i sicrhau bod gan nyrsys ddigon o amser i ofalu am gleifion. Mae dyletswydd gyntaf y Ddeddf yn berthnasol i unrhyw leoliad lle caiff gofal nyrsio ei ddarparu neu ei gomisiynu. Mae’r ail ddyletswydd ond yn berthnasol i wardiau cleifion preswyl llawfeddygol a meddygol acíwt oedolion ar hyn o bryd; fodd bynnag, mae gan Weinidogion Cymru bwerau o dan y Ddeddf i weithredu’r ddyletswydd mewn lleoliadau eraill pan fydd offer cynllunio’r gweithlu ar sail tystiolaeth ar gyfer y meysydd hynny wedi cael eu sefydlu.

 

Beth yw diben y Ddeddf?

Mae’n ofynnol i ymddiriedolaethau a byrddau iechyd sicrhau fod ganddyn nhw’r nifer cywir o staff nyrsio â’r gymysgedd gywir o sgiliau, wedi’u lleoli yn y lle cywir ar yr adeg gywir, i ofalu am gleifion yn sensitif.

Mae’r Ddeddf yn gosod cyfrifoldebau allweddol ar ymddiriedolaethau a byrddau iechyd, gan gynnwys sicrhau bod Lefelau Staff Nyrsio ar wardiau penodol yn cael eu cyfrifo, eu cynnal, eu hadolygu’n rheolaidd, a’u hadrodd i Lywodraeth Cymru.

 

Beth yw buddion y Ddeddf?

Bydd y Ddeddf yn diogelu a chefnogi gofal o ansawdd uchel i gleifion, yn ogystal â rhoi methodoleg safonol i nyrsys i gyfrifo Lefelau Staff Nyrsio sy’n cynnwys eu barn broffesiynol.

 

Beth mae lefel staff nyrsio yn ei olygu?

Lefel staff nyrsio yw nifer y staff nyrsio, sy’n cynnwys nyrsys a gweithwyr cymorth gofal iechyd, sydd eu hangen ar ward i’w galluogi i gael digon o amser i fodloni anghenion unigol cleifion.

 

Sut caiff y lefel staff nyrsio ei phennu/cyfrifo ar gyfer ward?

Yng Nghymru, rydym ni’n defnyddio nifer o offer i ategu barn broffesiynol nyrsys a phennu beth ddylai’r lefel staff nyrsio fod. Mae’r lefel yn amrywio o ward i ward, ac mae’n dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys nifer y cleifion, a lefel y gofal nyrsio y maen nhw ei hangen, diogelwch ac ansawdd y gwasanaeth, a barn broffesiynol nyrsys.

 

Sut bydd y lefel staff ar gyfer y ward yn cael ei gynnal?

Bydd y nyrs â chyfrifoldeb yn cynllunio rhestr staff a bydd yn cysylltu â’r tîm rheoli pan fydd bwlch yn y lefel staff. Ar adegau, gall y rhestr gynlluniedig newid ar sail nifer y cleifion ar y ward ac anghenion y cleifion.

Os bydd bylchau yn y rhestr gynlluniedig neu fod angen staff nyrsio ychwanegol, efallai y defnyddir staff o fanc nyrsys neu asiantaeth, os bydd angen, i gynnal y lefel staff nyrsio.

 

Sut galla’ i gael fwy o wybodaeth?

Mae Lefel Staff Nyrsio pob ward llawfeddygol a meddygol acíwt oedolion yn cael ei harddangos ar y ward.