Mae Cyd-asesiad Strategol (JSA) yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o iechyd a lles pobl Gwent mewn ffordd hygyrch y gall pawb gael golwg arno.
Mae JSA Gwent yn eistedd ochr yn ochr â Fframwaith Dangosyddion Gwent sydd newydd ei ddatblygu er mwyn darparu ffynhonnell wybodaeth a rennir i bartneriaid ledled Gwent er mwyn llywio’r gwaith cynllunio ar gyfer darparu gwasanaethau lleol. Gyda’i gilydd, maent yn darparu fframwaith ar gyfer adeiladu Gwent Iachach, Tecach, Diogelach a Chryfach , fel y disgrifir yn ein hadroddiad Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd diweddaraf.
P'un a ydych yn gweithio ym meysydd Cynllunio, Gweithrediadau, Cyllid, Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Tai, Addysg, neu yn y sector cymunedol a gwirfoddol, gall Asesiad Strategol ar y Cyd Gwent gefnogi eich penderfyniadau trwy ddarparu sylfaen dystiolaeth gref y gellir adeiladu newid cadarnhaol arni.