Neidio i'r prif gynnwy

Y Dechrau Gorau Mewn Bywyd Gwent Cyd-asesiad Strategol oAnghenion

Mae pob plentyn yn haeddu’r bywyd gorau – ond nid dyma’r realiti i bawb. 

Mae taith plentyn yn dechrau ymhell cyn genedigaeth, ond mae gormod o fabanod a phlant ifanc ar draws Gwent yn wynebu heriau sy’n eu dal yn ôl o’r cychwyn cyntaf. Mae'r blynyddoedd cynnar (cyn beichiogi hyd at 4 oed) yn llunio iechyd, datblygiad a chyfleoedd gydol oes. Os na fyddwn yn gweithredu'n gynnar, mae anghydraddoldebau'n tyfu a bydd yr effaith yn barhaol. 

Er mwyn eich cefnogi yn eich cynlluniau i roi’r dechrau gorau posibl i bob plentyn, mae’n dda gennym rannu Asesiad Anghenion Strategol ar y Cyd Dechrau Gorau mewn Bywyd ar gyfer Gwent. 

 

Beth yw Asesiad Anghenion Strategol ar y Cyd Dechrau Gorau mewn Bywyd? 

Gan roi llais i fabanod, plant ifanc a theuluoedd, mae Asesiad Anghenion Strategol ar y Cyd Dechrau Gorau mewn Bywyd yn dod â data, tystiolaeth a phrofiad byw ynghyd i ddeall beth sydd ei angen ar deuluoedd a sut y gallwn ymateb ar y cyd, gan bwysleisio pwysigrwydd mabwysiadu dull cwrs bywyd. 

 

Beth mae’n ei wneud? 

Wedi’i lunio gan fewnbwn gan weithwyr proffesiynol a theuluoedd ar draws Gwent, mae’r Asesiad Anghenion hwn yn gwneud y canlynol: 

  • Mapio cryfderau a heriau o'r cyfnod cyn beichiogi hyd at 4 oed 

  • Tynnu sylw at le mae angen y cymorth mwyaf 

  • Dynodi’r hyn sy’n gweithio a lle i wella 

  • Gosod 17 o argymhellion sy’n seiliedig ar dystiolaeth i arwain camau gweithredu 

 

Cael Mynediad at y Pecyn 

Gallwch archwilio’r Asesiad Anghenion llawn a holl ddeunyddiau’r pecyn ategol ar ein gwefan bwrpasol: HYPERLINK 

  1. Adroddiad Technegol – crynodeb fanwl o ddata, mewnwelediad cymunedol a phroffesiynol a darpariaeth gwasanaeth y blynyddoedd cynnar 

  1. Crynodeb Weithredol – tynnu sylw at y canfyddiadau craidd o’r Adroddiad Technegol 

  1. Adroddiad Cyd-destun – amlinellu’r rhesymeg dros ymrwymiad strategol a rennir a dull systemau cyfan o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd  

  1. Adroddiad Deallusrwydd – crynodeb o’r data allweddol sy’n sail i'r canfyddiadau a'r argymhellion 

  1. Ffynonellau Data a Chyfeiriadau – rhestr o’r setiau data a’r dystiolaeth a ddefnyddiwyd