Neidio i'r prif gynnwy

Dolenni ac Adnoddau Defnyddiol:

Dolenni ac adnoddau defnyddiol er mwyn cefnogi’r Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr: 

  • Veterans' Gateway - Gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar gyfer cyn-filwyr a’u teuluoedd.
  • Armed Forces Covenant Fund Trust - Cefnogi Cyfamod y Lluoedd Arfog drwy ariannu newid gwirioneddol.
  • Veterans Covenant Healthcare Alliance - Mae’r VCHA yn grŵp o ddarparwyr y GIG – yn cynnwys dwys, iechyd meddwl, cymuned, ac Ymddiriedolaethau ambiwlans – sydd wedi cytuno i fod yn enghreifftiau o’r gofal a’r cymorth gorau i gymuned y lluoedd arfog (boed yn Filwyr Rheolaidd, Milwyr Wrth Gefn, Cyn-filwyr, partneriaid neu’n ddibynyddion).
  • Step Into Health - cefnogi cymuned y Lluoedd Arfog i gael mynediad at y cyfleoedd gyrfa sydd ar gael yn y GIG.
  • Veterans UK - cymorth am ddim ar gyfer cyn-filwyr a’u teuluoedd, gan gynnwys llinell gymorth, Gwasanaeth Llesiant i Gyn-filwyr, Gwasanaethau Cymorth wrth Adael y Lluoedd Arfog a thaliadau cynllun iawndal anaf/galar.
  • Veterans NHS Wales - gwasanaeth blaenoriaeth, arbenigol ar gyfer unigolion fu’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, ar unrhyw adeg o’u bywydau ac sy’n profi problemau iechyd meddwl yn ymwneud yn benodol â’u gwasanaeth milwrol. 
  • Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr | LLYW.CYMRU - Arweiniad, gwasanaethau a chefnogaeth ar gyfer y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr. 
  • Adferiad Recovery - Gwasanaethau ar gyfer pobl yng Nghymru sydd â phroblemau iechyd meddwl, problemau camddefnyddio sylweddau, a’r rheiny sydd ag anghenion sy’n cyd-ddigwydd ac yn gymhleth.
  • Adfam – Gwasanaeth cymorth pwrpasol o bell ar gyfer oedolion sy’n aelodau teuluol cyn-filwyr â phroblemau defnyddio sylweddau.
  • Blesma - Cefnogi cyn-filwyr sydd wedi colli eu coesau neu eu breichiau am weddill eu hoes.
  • Blind Veterans UK - Cefnogi unrhyw un sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, neu sydd wedi cwblhau Gwasanaeth Cenedlaethol, ac sydd bellach wedi colli eu golwg yn sylweddol.
  • Woody’s Lodge - Man cyfarfod ar gyfer y rhai fu’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog neu’r Gwasanaethau Brys.