Neidio i'r prif gynnwy
Richard Clark

Aelod Annibynnol (Awdurdod Lleol)

Amdanaf i

Aelod Annibynnol (Awdurdod Lleol)

Mynychodd Richard Brifysgol Aberystwyth i astudio'r Gyfraith. Yn ychwanegol at ei radd yn y gyfraith, mae gan Richard ddwy radd Meistr- y cyntaf mewn Cynllunio Gwlad a Thref, a'r llall yn Arweinyddiaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus. Cyn etholiad 2017, roedd Richard yn Swyddog Polisi Cymru ar gyfer Cymdeithas y Ceiropodyddion a Podiatryddion. Mae wedi gweithio ym maes llywodraeth leol fel cynlluniwr tref ac yn delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae hefyd wedi bod yn Swyddog Hawliau Lles mewn hosbis leol.


Mae Richard wedi bod yn Gynghorydd Bwrdeistref Torfaen ers mis Mai 2004 yn cynrychioli Ward Gogledd Croesyceiliog. Ym mis Ionawr 2017 daeth yn Ddirprwy Arweinydd Cyngor Torfaen ac mae ganddo'r portffolio gweithredol ar gyfer Iechyd, Gwasanaethau Oedolion a Lles. Yn flaenorol, Richard oedd yr Aelod Gweithredol dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles (2013-2017); Aelod Gweithredol dros Lywodraethu Corfforaethol a Diogelwch Cymunedol (2010-2013) ac Aelod Gweithredol dros Adfywiad (2008-2010).

Mae Richard hefyd yn gwasanaethu ar Gyngor Cymuned Croesyceiliog a Llanyrafon ac fel Llywodraethwr yn Ysgolion Cynradd ac Uwchradd Croesyceiliog.Yn ei rôl fel Cynghorydd, mae Richard wedi gwasanaethu ar nifer o fyrddau. Ar hyn o bryd mae'n aelod o fwrdd Cydbwyllgor Eiddilwch Gwent; Tai Cymunedol Bron Afon ac Uned Data Llywodraeth Leol. Hyd at fis Ionawr eleni, roedd hefyd ar fwrdd Gwasanaeth Cyflawniad Addysg Dde Ddwyrain Cymru a Chynghrair Gwirfoddol Torfaen.