Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad Covid-19 Nosocomiaidd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: Ymchwilio a Dysgu o Achosion o Covid-19 a Gafwyd yn yr Ysbyty

Mae’r GIG yng Nghymru wedi gweithio’n hynod o galed drwy gydol y pandemig Covid-19 i wneud yr holl bosib i gadw’r feirws oddi wrth ysbytai ac amddiffyn rheini o dan eu gofal, yn aml mewn amgylchiadau anodd.

Mae prosesau atal heintiau trylwyr wedi bod mewn lle ym mhob sefydliad y GIG, gan gynnwys ysbytai; mae PPE am ddim wedi bod ar gael i bob gwasanaeth GIG a gofal cymunedol drwy gydol y pandemig; mae cyfarwyddiaeth ar bellter cymdeithasol, pellter gwelyau, profi cleifion a staff, gwisgo mygydau, a bu nifer o arolygon yn cael eu hymgymryd gan Fyrddau Iechyd, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Er yr holl ymdrech a’r mesuriadau mewn lle, mae heintiau Covid-19 wedi’u dal mewn ysbytai. Mae’r heintiau a gafwyd yn yr ysbyty yn cael eu galw’n heintiau nosocomiaidd.

Os mae achos o niweidio oherwydd Covid-19 a gafwyd yn yr ysbyty, mae’n bwysig i GIG Cymru fod yn agored a bod y Bwrdd Iechyd yn cynnal ymchwiliad i ddarganfod beth ddigwyddodd, y gwersi i ddysgu a beth sydd angen digwydd i leihau'r tebygolrwydd o achos yn digwydd i rywun arall.

Mae GIG Cymru wedi datblygu a chyhoeddi fframwaith cenedlaethol unigryw mewn perthynas i achosion diogelwch claf o Covid-19 a gafwyd yn yr ysbyty. Mae’r fframwaith yn amlinellu'r hyn dylai Byrddau Iechyd wneud mewn ymateb i achosion o Covid-19 a gafwyd yn yr ysbyty, mewn perthynas ag adrodd ar achosion, ymchwilio a’r cyfathrebiadau cysylltiedig.

Mi fydd Tîm Ymchwilio Covid Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cynnal y rhaglen o yma o waith drwy ddefnyddio dull gweithredu systematig yn unol â’r fframwaith cenedlaethol.


Pwynt Cyswllt

Mae canolfan gyswllt Covid bwrpasol ar gael i roi arweiniad a chefnogaeth. Gellir cysylltu â'r tîm ar 0300 373 0652 neu drwy e-bostio: abb.covidinvestigationteam@wales.nhs.uk 


Cymorth

Os oes angen cyngor annibynnol arnoch, yna mae gwasanaethau eiriolaeth a chymorth ar gael i chi drwy eich Cyngor Iechyd Cymuned leol.


Cwestiynau Cyffredin