Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogaeth iechyd meddwl yng Ngwent yn ystod pandemig COVID-19- Atebion i'ch cwestiynau

Mae gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru wedi aros ar gael trwy gydol pandemig COVID-19, gyda mesurau ar gael i leihau trosglwyddiad y feirws a’ch cadw chi, eich anwyliaid a’n staff yn ddiogel.

Os ydych eisoes yn hysbys i’r gwasanaethau iechyd meddwl, neu yn ceisio cefnogaeth am y tro cyntaf, medrwch ddod o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin isod.

Mae’r cwestiynau cyffredin hyn yn gosod allan pa gefnogaeth iechyd meddwl cyffredinol y gallwch ddisgwyl, lle bynnag yng Nghymru yr ydych yn byw. Mae gwybodaeth am gefnogaeth ychwanegol ar gael yn eich ardal leol hefyd, lle bo hyn yn berthnasol.

 

Cwestiynau Cyffredin i Blant a Phobl Ifanc

Os ydych dan 18 oed, neu yn aelod o’r teulu neu rywun sy’n gofalu am rywun dan 18, sy’n ceisio cyrchu cefnogaeth iechyd meddwl am y tro cyntaf darllenwch y Cwestiynau Cyffredin hyn.

Os ydych dan 18 oed, neu yn aelod o’r teulu neu rywun sy’n gofalu am rywun dan 18, sydd eisoes yn derbyn cefnogaeth gan wasanaethau iechyd meddwl, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin hyn.

 

Cwestiynau Cyffredin i Oedolion

Os ydych dros 18 oed, neu yn aelod o’r teulu neu rywun sy’n gofalu am rywun  dros 18 oed, sy’n ceisio cyrchu cefnogaeth iechyd meddwl am y tro cyntaf, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin hyn.

Os ydych dros 18 oed, neu yn aelod o’r teulu neu rywun sy’n gofalu am rywun  dros 18 oed, sydd eisoes yn derbyn cefnogaeth gan wasanaethau iechyd meddwl, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin hyn.